Does dim rhaid i chi fod yn swyddog mewn iwnifform er mwyn ymuno â Heddlu De Cymru. Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael nad ydynt yn cynnwys plismona ar y rheng flaen, gan gynnwys rolau mewn busnes, cyllid, delio â galwadau ffôn, TGCh, Adnoddau Dynol, y wasg a’r cyfryngau a gweinyddiaeth.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o rolau llawn amser a rhan amser ar gytundebau parhaol a dros dro, yn ogystal â llefydd profiad gwaith.
Felly, gallwch elwa o weithio i’r gwasanaeth heddlu heb orfod arestio unrhyw un.
Noder, rhaid cwblhau Ffurflen Gais ar wahân ar gyfer pob swydd y gwneir cais amdani, gan nodi Cyfeirnod y Swydd yn eglur.
Yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Gartref a Pholisi Archwilio Cefndir Cenedlaethol Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, rhaid atgoffa ymgeiswyr bod yn rhaid iddynt fod wedi bod yn breswyl yn y DU am y cyfnod o’r tair blynedd yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni’r gofyniad bod rhaid archwilio cefndir pob ymgeisydd mewn modd teg. Ar hyn o bryd nid oes gan wasanaeth Heddlu’r DU modd i archwilio cefndir mewn gwlad dramor i’r un graddau ac sy’n cael ei wneud ar gyfer pobl sydd wedi bod yn breswyl yn y DU. Os na ellir archwilio cefndir ymgeisydd, ni ellir ei benodi.
I gael rhagor o wybodaeth ar y swyddi sydd wedi’u rhestru isod, cliciwch ar y ddogfen Disgrifiad y Swydd a Manyleb y Person isod a lawr lwytho pecyn cais o’r blwch ar y dde:
'''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''''
INTERESTED IN JOINING THE SOUTH WALES POLICE, HQ STAFF BANK SCHEME
Hourly Rate dependant on placement.
South Wales Police have a bank of staff available to work on temporary placements as they arise within our various departments.
We are looking for a wide range of diverse people with various skills, who are enthusiastic, hard working, flexible and committed, to join our team in providing this professional support.
---------------------------------------
ASSOCIATE TUTOR : STAFF BANK SCHEME
South Wales Police Staff Bank Scheme are forming a team of Associated Tutors to be available to work on temporary short term placements as they arise, within the Learning Development Services Department. We are looking for qualified and experienced Trainers in a variety of disciplines. Successful Tutors will be employed as casual workers with no normal working hours and will be required to work at such times, and for such periods, as are necessary.
---------------------------------------
Pecyn Cais
Archwiliadau Cefndir:
Noder, fel rhan o’n proses recriwtio ein bod yn cwblhau archwiliadau collfarnau troseddol, archwiliadau ariannol ac archwiliadau meddygol ar gyfer ymgeiswyr sy’n cael eu hargymell ar gyfer eu penodi yn dilyn cyfweliad. Mae’r archwiliadau’n cynnwys archwilio i gollfarnau troseddol pob aelod o’ch teulu ac unrhyw unigolion eraill sy’n byw yn yr un cyfeiriad a chi. Rhaid i chi eu hysbysu y byddwn yn cynnal yr ymholiadau hyn. Ni fydd collfarnau neu rybuddion o reidrwydd yn eich gwahardd rhag cael eich penodi; bydd yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau’r drosedd. Fodd bynnag, bydd methu â datgelu unrhyw gollfarnau neu rybuddion yn achosi i’ch cais gael ei wrthod, ar sail diffyg gonestrwydd. Byddwn hefyd yn ystyried eich cofnod salwch a’ch geirda cyflogaeth a/neu addysgiadol cyn penodi.
Byddwn yn anfon y ffurflenni angenrheidiol ymlaen atoch ar yr adeg briodol, os cewch eich argymell ar gyfer eich penodi.
Diolch am ddangos diddordeb mewn ymuno â Heddlu De Cymru. Fodd bynnag, os na fyddwch yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn, peidiwch ag oedi rhag gwneud cais am swyddi gwag eraill yn y dyfodol pan fyddant yn cael eu hysbysebu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach yn ymwneud â’r mater hwn, cysylltwch ag aelod o’n tîm ar 01656 869 225 neu e-bost
HR-RECRUITMENT@heddlu-de-cymru.pnn.police.uk