South Wales Police

Swyddog Heddlu

Swyddog Heddlu

Making friends

Does dim amheuaeth fod plismona yn yrfa heriol, ond mae hefyd yn un o’r swyddi mwyaf gwerth chweil y gallwch ei chael.

Mae cerdded y rhawd yn fwy o beth nag arestio pobl yn unig - mae’n ymwneud â deall y gymuned yr ydych yn ei gwasanaethu. Mae’n rhaid bod gennych y gallu i siarad gyda phobl ar eu lefel hwy, yn ogystal â pharchu’r gwahanol hiliau a chrefyddau sy’n gwneud De Cymru yn lle mor ddiddorol i fyw, gweithio ag ymweld â hi.

Mae pob dydd yn wahanol, ond atal troseddu, canfod troseddau a gwneud i’r bobl sydd yn eich ardal chi i deimlo’n fwy diogel fydd eich prif gyfrifoldebau.

Bydd swyddog heddlu da:

  • yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon orau bosibl
  • yn cyfathrebu’n rhagorol
  • yn dda o ran datrys problemau
  • yn aelod gweithgar o’r tîm
  • yn cymryd cyfrifoldeb personol dros sicrhau canlyniadau

 

Felly, os ydych yn ymateb i ddigwyddiad brys, yn cynnal cyfweliad â dioddefwr, neu’n casglu cudd-wybodaeth, rydych yn rhan allweddol o ‘Gadw De Cymru yn Ddiogel’.
 

Image not found. Please update the content of this webpart.
Share
Mae gan bawb hawl sylfaenol ac yn haeddu cael eu trin yn deg ac mewn modd anwahaniaethol.
Taclo'r TaclauFfoniwch yn ddienw gyda gwybodaeth am droseddau neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddiogel

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice