Swyddog Heddlu - Amodau Cyflogaeth
Fel swyddog heddlu, byddwch yn mwynhau’r buddiannau canlynol:
- Cyflog cychwynnol o £23,259, yn codi i £27,471 wedi cwblhau eich cyfnod prawf dwy flynedd.
- Hawl i 22 diwrnod o wyliau, sy’n cynyddu gyda hyd eich gwasanaeth
- Tâl llawn ar gyfer absenoldeb o’ch dyletswyddau oherwydd salwch neu anaf ar gyfer y chwe mis cyntaf
- Cyfle i ddyrchafu i rengoedd uwch o fewn y sefydliad
- Cyfle i ymuno â maes plismona arbenigol; er enghraifft yr Adran Troseddau Arbenigol
- Bod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Heddlu Newydd
- Bod yn gymwys i ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu
Fel swyddog heddlu gyda Heddlu De Cymru, rhaid i chi fod yn barod i gael eich anfon i wasanaethu unrhyw le o fewn ardal De Cymru.
Bydd hefyd gofyn i chi weithio patrwm sifft wythnos 40 awr, gyda rhai sifftiau yn cwympo ar benwythnosau neu oriau anghymdeithasol. Mae’r gwasanaeth heddlu ar y cyfan yn arbrofi gyda nifer o wahanol batrymau sifft ar hyn o bryd.
Rhaid i bob recriwt newydd gwblhau cyfnod prawf o ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd swyddogion sy’n fyfyrwyr yn ymgymryd â rhaglen hyfforddiant lle byddant yn dysgu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gyflawni eu dyletswyddau plismona.
Please see below the Generic Risk assessment for a Police Constable