South Wales Police

Ydw i’n gymwys?

Swyddog Heddlu - Ydw i’n gymwys?

Mae Heddlu De Cymru yn annog pobl o bob cefndir i ymuno â’r sefydliad. 

Isod mae rhai canllawiau ar gyfer ymgeiswyr newydd:

Oedran
Rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed o leiaf i fod yn swyddog heddlu. Does dim cyfyngiad oedran uchaf, ond cofiwch mai’r oedran ymddeol arferol ar gyfer cwnstabliaid a sarsiantiaid yr heddlu yw 60.

Cyfnod Prawf
Rhaid i bob swyddog heddlu sydd newydd ei recriwtio ymgymryd â chyfnod prawf o ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’n rhaid iddynt gwblhau Tystysgrif Addysg Uwch mewn Gwyddorau Heddlu.

Cenedlaetholdeb
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn wladolyn EC/EEA, neu’r Swistir  yn ddinesydd o’r Gymanwlad neu’n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig. Bydd rhaid i wladolion tramor a dinasyddion o’r DU sydd wedi bod yn byw dramor aros am ychydig o amser er mwyn cael eu clirio gan yr adran diogelwch ac archwilio cefndir.

Addysg
Does dim angen addysg ffurfiol, ond bydd angen i chi basio prawf ysgrifenedig, rhifiadol a rhesymu rhesymegol os byddwch yn pasio’r cam ar gyfer y cais cychwynnol. 

Ffitrwydd corfforol
Rhaid i chi fod yn gorfforol ffit er mwyn cwblhau’r dyletswyddau sy’n ofynnol o swyddog heddlu yn effeithiol. Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn prawf ffitrwydd cyffredinol cyn cael eu penodi.

Iechyd
Rhaid i ymgeiswyr fod ag iechyd da yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn gallu delio â phwysau a gofynion gwaith yr heddlu.
Yna gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n derbyn cynnig cyflogaeth amodol neu sy’n cael eu rhoi mewn cronfa o ymgeiswyr llwyddiannus rydym yn bwriadu rhoi cynnig amodol iddynt pan fydd swydd ar gael i gwblhau holiadur meddygol a chyflawni archwiliad meddygol, a fydd yn cynnwys prawf golwg, cyn eu hapwyntio.  Bydd methu â bodloni’r safonau meddygol a golwg yn golygu na ellir eich apwyntio.  Os oes gennych anabledd, byddwn yn addasu lle bo’n rhesymol i wneud hynny.

Cyfyngiadau Taldra
Does dim isafswm nac uchafswm o ran gofynion taldra.

Tatŵs
Mae tatŵs sydd yn arbennig o amlwg, gorliwgar, sarhaus neu’n tanseilio urddas ac awdurdod eich rôl yn annerbyniol. Mae’r canllaw hwn hefyd yn ymwneud â chlustlysau ar yr wyneb.
Cylchlythyr Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol 02/2011. Gallwch weld y ddogfen hon ar wefan yr NPIA

Statws Ariannol
Bydd pob ymgeisydd yn derbyn archwiliad o’i statws ariannol. Mae’r archwiliadau hyn yn cael eu cynnal am fod swyddogion heddlu yn cael mynediad at wybodaeth freintiedig, a allai eu gwneud yn agored i lygredigaeth. Bydd unrhyw ymgeisydd sydd â dyfarniad Llys Sirol sy’n parhau mewn grym, sydd wedi’i gofrestru’n fethdalwr gyda dyledion sy’n ddyledus, yn cael ei wrthod. Os oes gennych ddyledion methdalwr sydd wedi’u clirio yna bydd rhaid i chi ddarparu Tystysgrif Diwallu gyda’ch cais.

Cofnod Troseddol
Fe allwch fod yn gymwys o hyd i ymuno â gwasanaeth yr heddlu os oes gennych gollfarnau/rhybuddion bychan, ond bydd rhai troseddau ac amodau penodol yn eich gwneud yn anghymwys. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi derbyn rhybudd ffurfiol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, neu os ydych wedi cyflawni trosedd dreisgar neu drosedd gorchymyn cyhoeddus.
Cylchlythyr Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol 02/2011. Gallwch weld y ddogfen hon ar wefan yr NPIA

Ceisiadau blaenorol
Cewch wneud cais i un gwnstabliaeth heddlu ar y tro yn unig. Os ydych wedi gwneud cais blaenorol i ymuno â gwasanaeth yr heddlu a fu’n aflwyddiannus, rhaid i chi aros chwe mis o’r dyddiad y cawsoch eich gwrthod cyn gwneud cais eto.

Aelodaeth o’r BNP neu sefydliad tebyg
Mae gan Heddlu De Cymru bolisi o wahardd unrhyw swyddogion neu staff rhag dod yn aelodau o’r BNP, neu sefydliad tebyg, sydd â nodau ac amcanion neu ddatganiadau a allai fynd yn groes i’r ddyletswydd o hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod o’r BNP neu sefydliad tebyg, neu eich bod wedi bod yn aelod yn flaenorol, fe allai eich cais gael ei wrthod.

 

Share

100 Cyflogwr Gorau

100 Cyflogwr Gorau

Yn gadarn o blaid pobl anabl

Yn gadarn o blaid pobl anabl
Hafan

Dewiswch eich iaith

Please select your language of choice