Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi dioddef trosedd sydd wedi eich anafu neu wedi difrodi eich eiddo, gallwch wneud cais am ddigollediad. Yn dibynnu ar y drosedd, mae dwy ffordd y gallwch wneud cais. Cofiwch nad yw pob cais yn llwyddiannus.
Os ydych wedi dioddef anaf corfforol neu feddyliol oherwydd trosedd dreisgar gallwch wneud cais am ddigollediad o dan gynllun digolledu am anafiadau troseddol llywodraeth y DU. Gellir dyfarnu’r math hwn o ddigollediad os yw’r troseddwr wedi’i ddal neu beidio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar-lein.
Os caiff troseddwr ei euogfarnu am drosedd yn eich erbyn, efallai y bydd y llys yn gorchymyn iddo ef neu hi eich digolledu. Gallai hyn fod am nifer o resymau, megis:
I gael rhagor o wybodaeth am ddigollediad a ddyfernir gan lys, cysylltwch â’r swyddog sydd yng ngofal eich achos. Bydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn gwneud y cais ar eich rhan.
Byddwn yn cyflwyno eich gwybodaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron a fydd wedyn yn gwneud y cais yn y llys.