Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r amser bron wedi cyrraedd... bydd Diwrnod Hwyl i'r Teulu Heddlu De Cymru 2024 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 29 Mehefin yn y Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr!
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i chi ddarganfod beth rydym yn ei wneud fel gwasanaeth, o gymryd olion bysedd i arddangosiadau arfau tanio.
Fel y llynedd, bydd atyniadau, gweithgareddau ac arddangosiadau at ddant pawb:
...a llu o bethau eraill!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa gyda'r heddlu? Bydd ein tîm recriwtio wrth law i drafod ein cyfleoedd diweddaraf.
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM, gan roi cyfle i chi gyfarfod ein swyddogion a'n staff a dysgu am yr hyn rydym yn ei wneud. Does dim angen i chi ddod ag unrhyw fath o ID. Noder mai'r amser mynediad olaf yw 3:30pm.
❗ DIWEDDARIAD ❗ @ Mehefin 3 2024: Mae ein teithiau Canolfan Dreftadaeth nawr yn llawn.
Fodd bynnag, mae modd archebu lle ar gyfer gwyliau'r haf. I holi ac archebu, cysylltwch â [email protected].
Peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld â'r Ganolfan Dreftadaeth ar ddiwrnod agored yr heddlu. Mae llefydd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin am 10:30 – 11:00, 11:30 – 12:00, 13:00 – 13:30, 14:00 – 14:30, 15:00 – 15:30. Bydd pob ymweliad yn para tua 30 munud. Trefnwch eich ymweliad heddiw drwy e-bostio: [email protected].
Os caiff yr holl lefydd eu llenwi, byddwn yn ceisio cynnig lle i'r rhai a gollodd allan ar ddyddiad arall.
Cyfeiriad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Llangrallo Isaf CF31 3SU
Car: Defnyddiwch Gyffyrdd 35-37 yr M4, a dilynwch arwyddion Pen-y-bont ar Ogwr.
Bws: Mae'r arhosfan bws yn y Pencadlys yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau Cymru Clipper X2.
Trên: Rydym tua 20 munud ar droed o orsaf rheilffordd Pen-y-bont ar Ogwr.