Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pob aderyn gwyllt, eu nythod, a'u hwyau wedi’u gwarchod gan y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon lladd, anafu neu gymryd adar gwyllt yn fwriadol, oni bai bod hynny’n cael ei wneud o dan drwydded.
Mae'r amddiffyniad hwn yn gymwys i bob rhywogaeth, gan gynnwys colomennod, gwylanod, brain, a pharacitiaid. Mae hefyd yn cynnwys adar ysglyfaethus gan gynnwys eryrod aur, hebogiaid tramor, bwncathod, barcutiaid coch a bodaod tinwyn.
Mae hefyd yn drosedd cymryd, niweidio neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol tra bo’n cael ei ddefnyddio neu ei adeiladu. Mae hyn yn cynnwys cymryd neu ddinistrio wyau unrhyw aderyn gwyllt oni bai bod hynny’n cael ei wneud o dan drwydded.
Mae yna rywogaethau sydd â diogelwch cyfreithiol ychwanegol. Mae'r rhain yn cynnwys hebogiaid tramor, tylluanod gwyn a barcutiaid coch. Yn achos yr adar yma mae'n drosedd tarfu arnyn nhw’n yn fwriadol neu'n ddi-hid tra byddan nhw:
Mae hefyd yn drosedd pan fydd aderyn yn cael ei ddal mewn rhwydi atal adar ac nad yw'n gallu dianc, gan arwain at achosi dioddefaint diangen trwy niwed, poen neu anaf. Perchnogion eiddo sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys gosod, cynnal a chadw a monitro rhwydi adar, ac ymateb yn brydlon os bydd unrhyw aderyn yn cael ei ddal.
Catapyltio yw lle mae rhywun yn defnyddio catapwlt i lansio neu saethu rhywbeth at fywyd gwyllt. Mae'n anghyfreithlon gwneud hyn. Mae hefyd yn drosedd meddu ar unrhyw beth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer lladd neu anafu adar, megis catapwlt.
Mae hyn yn effeithio'n gyffredin ar y rhain:
Gall aelodau'r cyhoedd helpu i adnabod troseddau yn erbyn adar drwy fod yn effro i'r canlynol:
Wrth gadw llygad am droseddau yn erbyn adar sy'n nythu, gall aelodau'r cyhoedd helpu drwy fod yn effro i'r canlynol:
Wrth gadw llygad am droseddau sy’n ymwneud â rhwydi atal adar, gall aelodau'r cyhoedd helpu trwy fod yn effro i’r canlynol:
Mae'n hynod bwysig nad ydych chi'n cyffwrdd ag unrhyw adar marw, ond daliwch i’w riportio nhw.
Os oes adar wedi’u hanafu neu os byddwch chi’n dod o hyd i gywion sy’n agored i niwed neu sydd wedi'u gadael, gallwch hefyd gysylltu â sefydliad adsefydlu bywyd gwyllt lleol drwy www.helpwildlife.co.uk.
Os byddwch chi'n dod ar draws aderyn marw neu wrthrych amheus, fe allai hyn fod yn safle trosedd bywyd gwyllt. Gall pob darn o wybodaeth fod yn hanfodol wrth erlyn troseddwr.
Dylech chi:
Dylech chi ddim:
Os ydych chi hefyd yn adnabod neu'n amau bod rhywun yn anafu neu'n lladd adar â chroesbwâu, catapyltiau neu unrhyw ddulliau eraill, riportiwch hyn.
Os oes trosedd yn digwydd ar hyn o bryd, neu os yw'r person dan amheuaeth yn dal yn y fan a'r lle, ffoniwch 999. Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os gwelwch chi rywbeth anghyfreithlon neu amheus, gallwch ei riportio ar-lein.
Gallwch hefyd riportio troseddau yn erbyn adar yn ddienw i Crimestoppers.
Gall amrywiaeth o drapiau cawell a thrapiau sbring, ynghyd â maglau, gael eu defnyddio’n gyfreithlon i reoli mamaliaid ac adar penodol.
Byddwch yn ymwybodol: os byddwch chi'n difrodi’r rhain, efallai y byddwch chi'n cyflawni difrod troseddol.
Please update your browser to the latest version and re-open the website to access the widget.