Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Caiff y trefniadau ar gyfer defnyddio a datgelu data personol eu rheoli yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf). O dan y Ddeddf, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yw rheolydd y data at ddibenion prosesu unrhyw ddata personol gan yr heddlu. Cyfeirir at Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru fel 'ni' yng ngweddill yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro:
Byddwn yn trin gwybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni wrth ddefnyddio'r wefan hon yn gyfrinachol, a byddwn ond ei datgelu i drydydd partïon pan fo'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny, neu o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Rydym yn casglu gwybodaeth am y defnydd o'r wefan er mwyn ein helpu i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau a gynigir i'r cyhoedd, ac i ddiogelu uniondeb ein systemau gan ddefnyddwyr maleisus. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth drwy'r gwahanol gyfleusterau sydd ar gael ar y wefan sy'n eich galluogi i ddarparu gwybodaeth i ni (megis ffurflenni ar-lein a'r cyfleuster sgwrs fyw) at y dibenion a ddisgrifir y nes ymlaen yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Ar hyn o bryd mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:
Data personol yw unrhyw wybodaeth rydym yn ei thrin sy'n ymwneud â pherson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy. Person naturiol adnabyddadwy yw unrhyw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar sail gwybodaeth, gan gynnwys drwy gyfeirio at enw, rhif adnabod, data lleoliad, dynodydd ar-lein neu un ffactor neu fwy sy'n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol, neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.
Ein Tîm Diogelu Data sy'n gyfrifol am reoli ein cydymffurfiaeth â rheolau diogelu data. Gellir cysylltu â'r Prif Swyddog Diogelu Data Arweiniol ar y cyd ar gyfer Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent drwy ddefnyddio'r manylion canlynol:
Swyddfa Diogelu Data
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
E-bost: [email protected]
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ran diogelu data o ddifrif. Rydym yn ymdrechu i wneud yn siŵr ein bod yn prosesu eich data personol yn briodol er mwyn sicrhau y gallwch ymddiried ynom. Gallwch gysylltu â'n Tîm Diogelu Data neu ein Swyddog Diogelu Data os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y ffordd y byddwn yn prosesu eich data personol.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gynnal y gyfraith, atal troseddau, dwyn troseddwyr ger bron eu gwell a diogelu'r cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn prosesu eich data personol er mwyn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel y ‘diben plismona’. Mae'r rhain yn cynnwys:
Rydym hefyd yn prosesu data personol at ddibenion sy'n cefnogi'r diben plismona. Mae'r rhain yn cynnwys:
Rydym yn prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys:
Gallwn brosesu data personol sy'n ymwneud â'r categorïau canlynol, neu sy'n eu cwmpasu:
Data personol yn ymwneud ag unigolion
Mae hyn yn cynnwys:
Data categori arbennig
Mae’r data personol sydd wedi’i nodi ag ‘(i)’ uchod yn cael ei ddosbarthu fel data categori arbennig. Gweler ein dogfen bolisi briodol ar gyfer prosesu Rhan 2 am fanylion camau diogelu ychwanegol ar gyfer prosesu data categori arbennig
Data personol sensitif
Mae camau diogelu ychwanegol ar gyfer prosesu ‘data categori arbennig’ at ddibenion gorfodi'r gyfraith i'w gweld yn ein dogfen bolisi briodol ar gyfer prosesu Rhan 3. Mae hyn yn cynnwys data sy'n ymwneud â throseddau a chosbau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol a chanlyniadau, a barn swyddogion am unigolion a'u hasesiad ohonynt
Bydd y mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y diben. Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr. Ein nod yw prosesu cyn lleied o ddata personol â phosibl er mwyn cyflawni'r diben perthnasol. Ni ddylech dybio ein bod yn cadw data personol ym mhob un o'r categorïau a nodwyd ar gyfer pob unigolyn rydym yn prosesu ei ddata personol.
Rydym yn casglu data personol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:
Pan fyddwn yn prosesu data personol at y diben plismona, ein sail gyfreithiol dros brosesu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 yw ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg yr ymgymerir â hi er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i ni. Mae ein swyddogaethau a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni yn seiliedig yn y gyfraith gyffredin ac yn cael eu hategu gan ddeddfwriaeth megis Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, Deddf yr Heddlu 1996 a Deddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Pan fyddwn yn prosesu data sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau, mae'r prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd ac sy'n cynnwys arfer swyddogaeth a roddwyd i ni drwy ddeddfiad neu reolaeth y gyfraith. Mae gennym ddogfennau polisi priodol (fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf) ar gyfer y prosesu hwnnw.
Pan fyddwn yn prosesu data personol at ddibenion heblaw am y diben plismona, bydd y sail gyfreithiol dros brosesu'r data yn amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Fel arfer, y sail gyfreithiol berthnasol yw bod y prosesu:
ac, yn achlysurol:
Rydym yn cymryd diogelwch unrhyw ddata personol a reolir gennym o ddifrif. Rydym yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelwch, rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001 a, lle y bo'n briodol, ganllawiau'r Coleg Plismona ar Sicrwydd Gwybodaeth.
Rydym yn sicrhau bod polisïau, hyfforddiant, a mesurau technegol a gweithdrefnol priodol ar waith, gan gynnwys mesurau ar gyfer archwilio ac arolygu, i ddiogelu ein systemau gwybodaeth papur ac electronig rhag achosion o golli a chamddefnyddio data. Rydym ond yn caniatáu i'r systemau hyn gael eu defnyddio pan fydd rheswm dilys dros wneud hynny ac yn unol â chanllawiau llym ynghylch sut y gellir defnyddio unrhyw ddata personol a geir ynddynt. Rydym yn rheoli ac yn gwella ein cydymffurfiaeth â safonau a chanllawiau perthnasol yn barhaus er mwyn sicrhau diogelwch digonol a chyfredol ar gyfer data personol.
Gallwn ddatgelu data personol i amrywiaeth eang o dderbynwyr yn unrhyw ran o'r byd (gan gynnwys y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd), gan gynnwys i'r rheini y cawn ddata personol ganddynt yn wreiddiol. Gall y derbynwyr hyn gynnwys y canlynol:
Caiff datgeliadau eu hystyried fesul achos, gan sicrhau mai ond y wybodaeth bersonol honno sy'n angenrheidiol ac yn gymesur i ddiben cyfreithlon penodol sy'n cael ei datgelu, gyda mesurau rheoli a diogelu priodol ar waith.
Caiff pob ffurflen ar-lein wedi'i chwblhau a gyflwynir i Heddlu De Cymru ei hanfon yn ddiogel yn awtomatig at dîm TG canolig yr heddlu sy'n gyfrifol am gyflawni Portffolio Plismona Digidol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
Rydym yn cadw eich data personol gyhyd ag sydd ei hangen at y diben neu'r dibenion penodol dan sylw.
Caiff data personol a ddelir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu eu cadw, eu hadolygu a'u dileu yn unol â chyfnodau cadw y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, sy'n gallu newid o bryd i'w gilydd.
Byddwn yn cadw cofnodion sy'n cynnwys data sy'n ymwneud ag ymchwiliadau troseddol, cudd-wybodaeth, diogelu'r cyhoedd, a dalfeydd yn unol â chanllawiau'r Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu.
O dan y Ddeddf, mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r data personol y byddwn yn eu prosesu. Nid oes angen i chi dalu er mwyn arfer eich hawliau (heblaw am ffi resymol os bydd cais i gael gafael ar ddata yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol, ond ein bod yn cytuno i'w fodloni serch hynny).
Noder y bydd amgylchiadau lle na fydd modd i ni gydsynio â'ch cais i arfer eich hawliau o ganlyniad i natur y prosesu sy'n mynd rhagddo. Byddwn yn ymdrechu i fodloni ceisiadau i arfer hawliau lle y bo'n bosibl.
Byddwn yn ymateb i'ch cais i arfer eich hawliau o fewn 1 mis i'w dderbyn, er y gall fod angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych weithiau er mwyn ein helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau bod gennych yr awdurdod i arfer yr hawliau, neu er mwyn i ni allu dod o hyd i'r data personol dan sylw. Ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â phrosesu cyffredinol (nid gorfodi'r gyfraith), os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom neu os yw'r cais yn gymhleth ac nid oes modd ei fodloni o fewn mis, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn a cheisio ymateb yn llawn o fewn deufis pellach.
Hawl mynediad: Gallwch wneud cais am ddim i gael y data personol rydym yn eu cadw amdanoch. Gallwch wneud cais i gael y data personol rydym yn eu cadw amdanoch drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Gael Gwybod: Mae gennych yr hawl i gael gwybod a ydym yn prosesu eich data personol, sut rydym wedi cael gafael arnynt, sut y byddwn yn eu defnyddio, eu cadw a'u storio, ac â phwy y byddwn yn eu rhannu. Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu'r wybodaeth honno, yn ogystal ag egluro eich hawliau.
Yr Hawl i Gywiro Data: Os byddwn yn cadw data personol amdanoch sy'n anghywir neu'n anghyflawn, mae gennych yr hawl i ofyn i ni eu cywiro. Gallwch ofyn i ni gywiro eich data personol drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Wneud Cais i Ddileu Data: O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol er mwyn sicrhau na chânt eu prosesu ymhellach lle na ellir cyfiawnhau eu cadw. Dyma'r amgylchiadau sy'n fwyaf tebygol o fod yn berthnasol:
Nid yw'r hawl i ddileu data yn gymwys os byddwn yn prosesu eich data personol:
Os ydych am ofyn i ni ddileu eich data personol, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Atal Data rhag cael eu Prosesu: O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni atal eich data personol rhag cael eu prosesu. Gallai hyn ddigwydd o dan yr amgylchiadau canlynol:
Gallwch ofyn i ni atal eich data personol rhag cael eu prosesu drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Gludadwyedd Data: Mae gennych yr hawl i gael gafael ar y wybodaeth bersonol amdanoch a'i hailddefnyddio at eich dibenion eich hunain, gan ei throsglwyddo o un amgylchedd i amgylchedd arall. Mae'r hawl hon ond yn berthnasol i ddata personol a roddwyd gan unigolyn, lle y cânt eu prosesu ar sail caniatâd yr unigolyn neu er mwyn cyflawni contract, a phan brosesir y data hynny drwy ddulliau awtomataidd. Os ydych am drafod yr hawl hon, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Wrthwynebu: Mae gennych yr hawl i wrthwynebu'r canlynol:
Rhaid i unrhyw wrthwynebiad fod ar sail sy'n gysylltiedig â'ch sefyllfa benodol. Os ydych am arfer eich hawl i wrthwynebu, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Hawliau sy'n gysylltiedig â phrosesau penderfynu awtomataidd neu broffilio awtomataidd: Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn destun unrhyw benderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig (gan gynnwys proffilio) ac sy'n cael effaith gyfreithiol neu effaith sylweddol debyg arnoch.
Nid yw'r hawl hon yn berthnasol os yw'r penderfyniad:
Mae'n annhebygol y byddwn yn gwneud penderfyniadau awtomataidd am fod pobl yn rhyngweithio mewn gwahanol fyrdd â'n trefniadau prosesu ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â nhw.
Mae proffilio yn cyfeirio at brosesu data personol yn awtomataidd mewn unrhyw ffordd er mwyn gwerthuso agweddau personol penodol arnoch a rhagfynegi pethau amdanoch megis eich ymddygiad, eich diddordebau, eich symudiadau neu eich perfformiad yn y gwaith. Nid ydym yn cynnal prosesau proffilio awtomataidd ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am benderfyniadau awtomataidd neu broffilio awtomataidd, gallwch eu codi gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Defnyddir cwcis ar y wefan hon i wella profiad y defnyddiwr ac ar gyfer swyddogaethau hanfodol; ni chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod.
Dysgu rhagor am sut rydym yn rheoli cwcis.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae'r heddlu wedi trin eich data personol, dylech gysylltu â'r tîm diogelu data yn gyntaf, am ei bod yn bosibl y gallwn ddatrys y broblem. Os nad ydych yn fodlon o hyd, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddio'r gwaith o brosesu data personol. Gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi prosesu eich data personol (noder y bydd y Comisiynydd yn disgwyl i chi gysylltu â'r heddlu yn y lle cyntaf).
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
Gwneud cwyn ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Gwnaethom ddiweddaru'r polisi hwn ddiwethaf ar 17 Medi 2021. Rydym yn adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru bob blwyddyn neu pan fydd unrhyw newidiadau pwysig.