Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn cynnal Gwrandawiad Camymddwyn Carlam a fydd yn dechrau am 18:00 ddydd Mawrth 10 Tachwedd 2026 ym Mhencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y gwrandawiad yn cael ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
Y swyddog a fydd yn destun y gwrandawiad hwn yw Cwnstabl yr Heddlu 5458 Nathan Griffiths, sydd wedi'i gyhuddo o dorri'r safonau ymddygiad proffesiynol canlynol:
Safon 2 – Awdurdod, Parch a Chwrteisi
Mae swyddogion yr heddlu yn gweithredu gyda hunanreolaeth a goddefgarwch, gan drin aelodau o'r cyhoedd a chydweithwyr â pharch a chwrteisi. Nid yw swyddogion yr heddlu yn camddefnyddio eu pwerau na'u hawdurdod ac maent yn parchu hawliau pob unigolyn.
Safon 9 – Ymddygiad Annheilwng
Mae Swyddogion yr Heddlu yn ymddwyn mewn ffordd nad yw'n difrïo gwasanaeth yr Heddlu nac yn tanseilio hyder y cyhoedd ynddo, p'un a fyddant ar ddyletswydd ai peidio.
Mae'r honiadau yn ymwneud ag ymddygiad y swyddog pan nad oedd ar ddyletswydd, wrth fod mewn achlysur cymdeithasol.