Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn cynnal gwrandawiad camymddwyn difrifol rhwng dydd Llun 9 Tachwedd a dydd Mercher 11 Tachwedd 2026 yng Nghanolfan Dechnoleg Waterton, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3WT. Bydd y gwrandawiad yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Thomas Williams.
Y swyddogion sy'n destun y gwrandawiad hwn yw Cwnstabliaid yr Heddlu 8326 Jessica Phillips a 6931 Kayla Pugh, sydd wedi'u cyhuddo o dorri'r safonau ymddygiad proffesiynol canlynol:
Safon 1 – Gonestrwydd ac Uniondeb
Mae swyddogion yr heddlu yn onest, yn gweithredu gydag uniondeb ac nid ydynt yn peryglu eu rôl nac yn camarfer ynddi.
Safon 5 - Gorchmynion a Chyfarwyddiadau
Dim ond gorchmynion a chyfarwyddiadau cyfreithlon y mae swyddogion yr heddlu yn eu rhoi ac yn eu cyflawni. Mae swyddogion yr heddlu yn cydymffurfio â rheoliadau'r heddlu, polisïau'r heddlu a gorchmynion cyfreithiol.
Safon 6 – Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Mae swyddogion yr heddlu yn ddiwyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau
Safon 9 – Ymddygiad Annheilwng
Mae Swyddogion yr Heddlu yn ymddwyn mewn ffordd nad yw'n difrïo gwasanaeth yr Heddlu nac yn tanseilio hyder y cyhoedd ynddo, p'un a fyddant ar ddyletswydd ai peidio.
Mae'r honiadau yn ymwneud â'r swyddogion yn methu dilyn gweithdrefn yr heddlu i gymryd camau cadarnhaol i ddiogelu dioddefwr a oedd yn agored i niwed a lleihau neu ddileu bygythiad ac atal niwed.