Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am unigolion sy’n gyrru beiciau - gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – mewn modd anghyfreithlon, i gyflawni gweithgareddau troseddol neu i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Yn rhan o Ymgyrch Grebe, rydyn ni'n cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb.
Mae cael gwybodaeth gennych chi yn ein helpu i fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â beiciau. Mae angen gwybodaeth arnom am feiciau sy'n cael eu gyrru mewn modd anghyfreithlon, beiciau nad ydynt yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd a beiciau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol, fel gwerthu cyffuriau.
Rydyn ni'n cau’n dynn ar y rheini sy'n defnyddio beiciau i gyflawni troseddau, achosi difrod troseddol, neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Mae defnyddio beiciau yn anghyfreithlon yn rhoi'r cyhoedd a'r beicwyr eu hunain mewn perygl.
Pa fath o wybodaeth sy'n ddefnyddiol?
Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod am feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon neu i gyflawni troseddau:
Oes gennych chi wybodaeth am weithgarwch beiciau anghyfreithlon?
Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod
Dim ond beiciau sy'n gyson â'r diffiniad o feic pedal a gynorthwyir yn drydanol (EAPC) y gellir eu reidio a'u trin yr un fath â beic pedal confensiynol, ar yr amod bod y defnyddiwr yn 14 oed neu hŷn. Mae defnydd confensiynol yn cynnwys reidio ar y ffyrdd a reidio ar lwybrau beicio.
Os nad yw eich beic yn EAPC, ystyrir ei fod yn feic modur neu'n foped.
Mae beiciau modur a mopeds yn gofyn am y canlynol:
Os oes gennych feic a gynorthwyir yn drydanol heb ddefnyddio'r pedalau, a elwir fel arfer yn 'Twist and Go', dylech sicrhau bod eich beic yn bodloni gofynion Rheoliadau EAPC ac wedi cael "cymeradwyaeth math" wrth gael ei weithgynhyrchu. Os nad ydyw, ac nid ydych wedi ceisio Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Beic Modur (MSVA), ni fydd y beic yng nghategori EAPC ac fe fydd yn anghyfreithlon ei ddefnyddio ar y ffordd fawr.

Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ei fflyd ei hun o feiciau Sur-Ron er mwyn gwella gallu'r heddlu i fynd i'r afael â throseddau.
Mae’r beiciau modur trydan ysgafn a phwerus yn rhan o fuddsoddiad diweddaraf yr heddlu i ymateb i faterion mae’r cyhoedd wedi lleisio pryderon amdanynt, fel troseddau cyffuriau a dwyn.
Diolch i’w fframiau main ac ysgafn, bydd y beiciau modur trydan hyn yn galluogi swyddogion i ymateb i droseddau mewn ardaloedd prysur dros ben, gan eu helpu i yrru drwy draffig neu ddefnyddio ffyrdd cul nad yw ceir yr heddlu yn gallu cael mynediad atynt.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams:
“Y buddsoddiad newydd hwn yw’r datblygiad diweddaraf mewn tactegau i fynd i'r afael â gweithgarwch troseddol yn ein cymuned. Wrth i faes plismona newid, hoffwn dawelu meddyliau’r gymuned ein bod yn datblygu ein gallu i fynd i’r afael â'r heriau."
Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i wella ei allu o ran ymateb i droseddau, ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn hyfforddi peilotiaid dronau yn ddiweddar, yn ogystal â phrynu 6 drôn newydd ar y cyd â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Ychwanegodd yr ACC Williams:
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y dechnoleg a'r galluoedd y mae eu hangen i adnabod troseddwyr a dod o hyd iddynt. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein tîm dronau ac ystyried prynu rhagor o offer i gryfhau'r dystiolaeth y gallwn ni ei chasglu a gwella’r cyfleoedd i ddwyn troseddwyr gerbron y llysoedd.”
Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
"Rwy'n falch o gefnogi'r gwaith ehangu diweddaraf yn Heddlu De Cymru gan fod creu cymunedau mwy diogel i bawb yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Drwy wella ei alluoedd, bydd modd i’r heddlu barhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau yn ein cymunedau ac ymateb iddynt."
Lansiodd Heddlu De Cymru ei fflyd o feiciau Sur-Ron gyda'r nod penodol o fynd i'r afael â beiciau anghyfreithlon.
Mae ein beiciau Sur-Ron yn gwbl gyfreithlon ar gyfer y ffordd ac mae swyddogion wedi cael hyfforddiant i'w gyrru.
Mae'r cerbydau wedi cael eu trethu ac mae yswiriant wedi'i drefnu ar eu cyfer. Mae gan bob gyrrwr drwydded yrru ddilys ac mae'n rhaid gwisgo helmed beic modur sy'n bodloni safonau diogelwch Prydeinig.
Fyddwn ni ond yn cymryd camau gweithredu yn erbyn y rheini sy'n defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon, gan gynnwys gyrru heb yswiriant, gyrru heb y drwydded gywir, neu yrru mewn modd sy'n rhoi pobl eraill mewn perygl.
Fel mesur rhagweithiol, byddwn yn anfon ein swyddogion i leoliadau allweddol lle ceir adroddiadau am feiciau. Byddwn yn defnyddio'r beiciau mewn ardaloedd rydyn ni'n gwybod y mae beiciau anghyfreithlon yn mynd iddynt yn aml ac yn defnyddio unrhyw wybodaeth/gudd-wybodaeth sydd gennym, ynghyd ag adborth gan y gymuned ac adroddiadau.
Byddwn yn gweithredu gwarantau mewn ardaloedd rydyn ni’n gwybod y mae pobl yn storio beiciau anghyfreithlon neu feiciau sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon ynddynt.
Mae swyddogion sy'n gyrru'r beiciau hyn yn meddu ar y trwyddedau perthnasol gofynnol, ac mae pob un ohonynt yn feiciwr modur uwch yr heddlu sydd wedi cael ei hyfforddi. Mae'r holl swyddogion yn cael hyfforddiant arbenigol i sicrhau y gallan nhw gael eu hanfon i ymgyrchoedd plismona yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae eithriadau cyfreithiol yn caniatáu i swyddogion yr heddlu yrru ar y palmant neu oddi ar y ffordd pan fo angen at ddibenion plismona, gan gynnwys ar gyfer hyfforddiant.
Mae swyddogion yn asesu'r risgiau cysylltiedig yn barhaus, gan ystyried ffactorau fel diogelwch y cyhoedd, y lleoliad a'r angen. Bydd diogelwch bob amser yn flaenoriaeth.
Rydyn ni wedi creu porth ar-lein lle gallwch chi rannu gwybodaeth ac unrhyw luniau neu fideos sydd gennych. Defnyddiwch y ddolen hon i ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wybod: https://mipp.police.uk/operation/62SWP26S02-PO2
Rydyn ni'n gwybod y gall beiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon fod yn gysylltiedig â throseddau mwy difrifol. Gallai unrhyw wybodaeth sydd gennych, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi, fod yr union fanylion y mae eu hangen arnom.
Nac ydyn. Nid ydym yn gwerthu beiciau sy'n cael eu hatafaelu yn rhan o ymgyrchoedd i dargedu beiciau anghyfreithlon mewn ocsiwn.
Dydyn ni ddim yn gallu cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd ym mhob ardal, felly rydyn ni wedi gofyn i'r cyhoedd rannu'r hyn maen nhw'n ei wybod â ni fel y gallwn ni gasglu gwybodaeth a gweithredu.
Nod yr ymgyrch hwn yw targedu unigolion sy'n gyrru beiciau mewn modd anghyfreithlon (gan gynnwys defnyddio beiciau i gyflawni trosedd neu achosi difrod troseddol/ymddwyn yn wrthgymdeithasol).
Nid targedu plant mo bwriad ymgyrch Grebe. Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael ag achosion o ddefnyddio beiciau'n anghyfreithlon. Mae cymunedau ledled de Cymru yn dweud wrthym yn rheolaidd fod y gweithgarwch hwn yn cael effaith negyddol yn eu hardal. Ein rôl ni yw gweithredu ar y pryderon hynny.
Rydyn ni'n gwybod y byddai llawer o bobl yn hoffi gweld mwy o gyfleoedd a chyfleusterau o'r fath. Fodd bynnag, pwrpas yr ymgyrch hwn yw mynd i'r afael â'r bobl yn ein cymunedau sy'n defnyddio beiciau'n anghyfreithlon. Rydyn ni'n cael adroddiadau gan drigolion fod beiciau yn cael eu gyrru'n beryglus yn rheolaidd. Mae hyn yn achosi pryder a difrod ac yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydyn ni'n ymateb i'r pryderon hynny.
Mae'r ymgyrch hwn yn canolbwyntio ar y defnydd anghyfreithlon o feiciau, a all roi beicwyr ac aelodau o'r cyhoedd mewn perygl. Mae cymunedau y mae'r gweithgarwch hwn yn effeithio arnynt yn rhannu eu pryderon â ni yn rheolaidd. Rydyn ni'n gweithredu.