Stamp amser presennol: 22/06/26 03:47:13
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 116 o flynyddoedd yn y ddalfa am herwgipio yng Nghaerdydd.

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 12:13 27/10/2023

Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 116 o flynyddoedd yn y ddalfa am  herwgipio yng Nghaerdydd

Mae naw dyn wedi cael eu carcharu ar ôl herwgipio dyn o Gaerdydd.

Cafodd yr achos hwn ei ddisgrifio fel un o'r ymchwiliadau herwgipio mwyaf cymhleth yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf.

Tua 4.30pm ddydd Gwener, 11 Rhagfyr, 2020, cafodd dyn 22 oed ei herwgipio o Clifton Street, Sblot, i Odet Court ar Heol Pendwyallt, yr Eglwys Newydd.

Heb yn wybod iddo, roedd cynllun herwgipio eisoes ar waith gan Grŵp Troseddau Cyfundrefnol er mwyn cael arian oddi wrtho ef, a'i ffrindiau, a oedd yn cynnwys dal gwn a chyllell i'w bygwth, ac roedd hynny'n cynnwys gofyn am daliad pridwerth o £50k i sicrhau y byddai'n dychwelyd yn ddiogel.

Am 7.57pm y diwrnod hwnnw, cafodd Heddlu De Cymru alwad 999 a lansiwyd ymchwiliad gan Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu.

Cafodd y dioddefwr, a oedd yn adnabyddus i aelod o giang yn Llundain, ei gludo wedyn i leoliad arall yn Hemel Hempstead, Lloegr, lle parhawyd i'w guro, ei roi mewn gefynnau, ei fygwth â chyllell a'i gadw dan fygythiad ci wedi'i hyfforddi i ymosod yn ffyrnig.

O ganlyniad i ymchwiliad ar y cyd â sawl heddlu a'r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, cafodd y dioddefwr ei achub yn ddiogel o'r cyfeiriad yn Hemel Hempstead am 11.30pm nos Sadwrn, 12 Rhagfyr.

Yn ystod gwrandawiad llys, dywedodd y dioddefwr: “Achubodd yr heddlu fy mywyd. Dydw i ddim yn credu y byddwn i'n fyw oni bai bod yr heddlu wedi dod y diwrnod hwnnw. Rwyf 100% yn siŵr. Wn i ddim pam eu bod am i fi farw, ond rwy 100% yn siŵr na fyddwn i'n fyw.”

Bron i dair blynedd yn ddiweddarach ac yn dilyn tri threial, mae naw dyn wedi cael eu dyfarnu'n euog.

Cawsant ddedfryd o gyfanswm o 116 o flynyddoedd yn Llys y Goron Caerdydd heddiw. Rhoddwyd dedfrydau estynedig i chwech o'r naw dyn a oedd yn gyfanswm o 22 o flynyddoedd oherwydd y perygl y maent yn ei beri i'r cyhoedd. Mae hyn yn golygu, pe baent yn cyflawni unrhyw droseddau ychwanegol tra byddant ar drwydded, ar ddiwedd eu cyfnod yn y carchar, y byddant yn dychwelyd i'r carchar am weddill eu dedfryd wreiddiol.

Organised Crime Group sentenced to a total of 116 years for a Cardiff kidnap

Cafodd y canlynol eu dyfarnu'n euog o herwgipio, carcharu ffug, a blacmel:

  • Fortune Lawson, 27, o Ealing, Llundain. Dedfrydwyd i 25 mlynedd yn y carchar a 5 mlynedd o ddedfryd estynedig. (Cafodd Lawson hefyd ei ddedfrydu am ei ran mewn ail achos o herwgipio a blacmel yn Llundain yn 2018).
  • Davood Assadopour, 32, o Harrow, Llundain. Dedfrydwyd i 15 mlynedd yn y carchar a 4 mlynedd o ddedfryd estynedig.
  • Micaiah Marley, 30, o Watford. Dedfrydwyd i 15 mlynedd yn y carchar a 4 mlynedd o ddedfryd estynedig.
  • Arnold Fumumeya, 27, o Harrow, Llundain. Dedfrydwyd i 13 mlynedd yn y carchar a 3 mlynedd o ddedfryd estynedig.
  • Alexis Mutesa, 27, o Brent, Llundain. Dedfrydwyd i 13 mlynedd yn y carchar a 3 mlynedd o ddedfryd estynedig.
  • Gideon Lawson, 24, o Lundain. Dedfrydwyd i 12 mlynedd yn y carchar a 3 mlynedd o ddedfryd estynedig.
  • Ahmed Omar, 29, o Mitcham, Surrey. Dedfrydwyd i 9 mlynedd yn y carchar.
  • Hefyd, cafodd Denis Delishaj, 24, o Harrow, Llundain, ei ddyfarnu'n euog o flacmel. Dedfrydwyd i 8 mlynedd yn y carchar ac 8 mis am feddu ar ffôn gwaharddedig tra roedd yn y carchar yn aros am y treial.
  • Cafodd Stephen Isaac, 66, o Hemel Hempstead, ei ddyfarnu'n euog o herwgipio a charcharu ffug. Dedfrydwyd i 6 mlynedd.

Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelwyd arfau gan gynnwys chwe chyllell, pum cyfres o getris byw, gwn llaw, bom mwg grenâd, a thaser a oedd yn edrych fel ffôn symudol.

Cafodd mwy na 400 awr o glipiau Teledu Cylch Cyfyng eu hadfer gan dditectifs ar draws 5 ardal Heddlu a chymerwyd mwy na 1,000 o ddatganiadau.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George, pennaeth y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr: “Mae herwgipio a'r defnydd troseddol o arfau tanio yn brin iawn yn Heddlu De Cymru ond pan fyddant yn digwydd, fel y daeth y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol hwn i wybod, rydym yn benderfynol o fynd ar ôl y troseddwyr.

“Roedd hwn yn un o ymchwiliadau herwgipio mwyaf cymhleth y DU yn y blynyddoedd diwethaf, a chymerodd bron i dair blynedd i ddyfarnu'r naw unigolyn hyn yn euog.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein buddsoddiad yn y drosedd hon a'r dedfrydau a roddwyd yn rhoi neges glir i'r rhai sy'n benderfynol o achosi trais o'r fath ar ein strydoedd.

“Byddwn yn mynd ar eich ôl gyda phopeth o fewn ein gallu a byddwch yn mynd i'r carchar.”

Arbus balaclava.JPG

Arbus firearm.JPG

Arbus rambo knife.JPG

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.