Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am fwy na chwe blynedd ar ôl iddo ymosod ar fenyw yn rhywiol.
Cafodd David Walsh, 41 oed o Gabalfa, Caerdydd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 10 Hydref i chwe blynedd a chwe mis ar ôl cael ei ganfod yn euog o'r canlynol:
Dywedodd y Ditectif Ringyll Josh Danaher:
“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr am ei chryfder a'r gwydnwch a ddangosodd drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Mae gweithredoedd Walsh wedi cael effaith sylweddol iawn arni, felly rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn ei helpu i symud ymlaen o'i weithredoedd.
“Os ydych chi wedi dioddef trosedd rhywiol, rhowch wybod i'r heddlu. Byddwn bob amser yn cymryd eich adroddiadau o ddifrif ac rydym yn ymrwymedig i ddwyn troseddwyr fel Walsh o flaen eu gwell.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.
