Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Aberdâr a dyn o Gasnewydd wedi cael gorchmynion gwahardd pêl-droed sy'n eu hatal rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed yn y DU am dair blynedd.
Aeth y ddau ddyn i gêm Dinas Caerdydd yn erbyn Casnewydd yng ngêm Tlws Vertu ddydd Mawrth 7 Hydref.
Ymddangosodd Gavin Fernquest o Gasnewydd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener 24 Hydref lle plediodd yn euog i'r drosedd o fod â dyfais byrotechnegol yn ei feddiant yn y stadiwm.
Cafodd Fernquest ei weld yn amlwg ar ddeunydd teledu cylch cyfyng yn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau yn y stand i gefnogwyr oddi cartref wrth chwifio bom mwg oren uwch ei ben ar ôl i Gasnewydd sgorio gôl. Roedd wedi gwadu dod â'r eitem i'r cae. Cafodd Fernquest orchymyn gwahardd pêl-droed am dair blynedd am y drosedd, ac mae hefyd wedi cael dirwy, cost a gordal dioddefwr gwerth £401.00.
Ymddangosodd Ashley Collins o Aberaman, Aberdâr gerbron Llys Ynadon Caerdydd hefyd ddydd Gwener 24 Hydref lle plediodd yn euog i'r drosedd o gyrchu'r cae a bod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Hydref 2025.
Neidiodd dros y rhwystr a rhedodd ar draws y cae yn dilyn gôl Casnewydd a chafodd ei ddal gan y stiwardiaid cyfagos. Yn ddiweddarach, canfuwyd bod ganddo gocên yn ei feddiant tra roedd yn y ddalfa. Cafodd Collins hefyd orchymyn gwahardd pêl-droed am dair blynedd a dirwy, costau a gordal dioddefwr gwerth £253.00.
Dyma'r eildro i Collins gael ei ganfod yn euog o gyrchu'r cae ar ôl y digwyddiad arall yn 2012, lle y cafodd ei wahardd rhag mynd i gemau.
Mae cyhoeddi gorchmynion Gwahardd Pêl-droed yn golygu na chaiff y ddau fynd i gemau yn y DU na thramor am y tair blynedd nesaf, gan gynnwys pob gêm Euro 2028 a gynhelir yn y DU.
Mae ymchwiliadau eraill sy'n gysylltiedig â'r gêm hon yn parhau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Emma Fox: “Roedd rhan fwyaf o'r cefnogwyr a aeth i'r gêm hon yn ymddwyn yn ardderchog, ond yn anffodus mae nifer bach wedi amharu ar yr achlysur. Byddwn yn ymdrin â'r rhai sy'n weddill yn briodol.”