Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal adolygiad fforensig o lofruddiaethau Diane Jones, 21 oed, Shauna Hibberd, 2 flwydd oed, a Sarah-Jane Hibberd, 13 mis oed.
Gobaith yr Uned Adolygu Troseddau Mawr yn Uned De Cymru, ddeng mlynedd ar hugain ar ôl y llofruddiaethau, yw y bydd datblygiadau mewn technoleg fforensig yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.
Bu farw Diane Jones a'i dwy ferch mewn tân bwriadol yn eu tŷ teras tair ystafell wely ar ddiwedd rhes ar ystad y Gurnos ar 11 Hydref 1995.
Roedd tanwydd wedi'i dywallt drwy flwch llythyrau'r tŷ. Cafodd Diane a'i dau blentyn eu darganfod gan y gwasanaethau brys mewn ystafell wely i fyny'r grisiau. Bu farw'r tri o ganlyniad i'r tân.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Gareth Davies:
“Ar y pryd, roedd yr achos trasig hwn a hawliodd fywydau diniwed mam a'i dau blentyn yn destun syndod mawr yn ardal Gurnos ac mae wedi bwrw cysgod dros y gymuned byth ers hynny.
“Mae teulu Diane wedi'u gadael heb atebion ers degawdau ac maent wedi dioddef yn aruthrol o ganlyniad hynny.
“Mae'r swyddogion sy'n ailedrych ar yr achos hwn yn gobeithio y bydd technoleg fforensig a thechnegau nad oeddent ar gael o'r blaen yn cynnig cyfleoedd newydd i symud yr ymchwiliad yn ei flaen.
“Gobeithio y gallwn ddatgelu tystiolaeth newydd a fydd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.”
Rydym hefyd yn gobeithio, os bydd gan unrhyw un wybodaeth nad ydynt wedi ei rhannu'n flaenorol, y byddant yn penderfynu cysylltu â ni.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Davies:
“Rwy'n eithaf hyderus bod gan rywun wybodaeth, y gwnaeth benderfynu ar y pryd, am ba reswm bynnag, beidio â'i datgelu. Mae tri degawd wedi mynd heibio – mae'n bosibl bod ffyddlondeb yr unigolyn hwnnw yn wahanol nawr neu mae'n bosibl bod ei amgylchiadau yn wahanol heddiw. Fy neges iddo yw nad yw hi byth yn rhy hwyr cysylltu â ni – nawr yw'r amser i rannu rhywbeth sydd, yn ddi-os, wedi pwyso'n drwm arno ers blynyddoedd. Mae'n bryd i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am farwolaethau Diane, Shauna a Sarah-Jane gael ei enwi a'i ddwyn gerbron y llysoedd.”
Mae teulu'r dioddefwyr yn llwyr gefnogi'r adolygiad ac yn adleisio apêl Heddlu De Cymru am wybodaeth. Mewn datganiad a ddarparwyd i Heddlu De Cymru, dywedodd Mary, chwaer Diane Jones:
“Ar 11 Hydref 1995, cafodd fy nghalon a'm bywyd eu chwalu'n deilchion.
“Mae 30 mlynedd wedi mynd heibio ond rydyn ni fel teulu yn dal i fyw'r hunllef hon fel pe bai ond wedi digwydd ddoe.
“Yn ogystal â cholli chwaer a'n nithod, gwnaethom golli ein rhieni hefyd. Torrodd eu calonnau'n llwyr, a doedden nhw byth yr un peth.
“Cymerodd fy nhad, John, ei fywyd ei hun yn 2003, yn 52 oed – ni allai fyw hebddynt.
“Brwydrodd fy mam, Myra, yn gryf dros gyfiawnder ar ôl colli ei merch, ei hwyresau a'i gŵr, ond yn anffodus, cafodd ddiagnosis o ganser a bu farw'n sydyn yn 62 oed.
“Roedd mam yn arfer dweud ‘Rwy'n gobeithio gweld cyfiawnder cyn i mi fynd’, ond ni chafodd fyth y cyfle.
“Rwy'n gobeithio bod gan rywun yr allwedd i'r hyn ddigwyddodd, ac y bydd yn cysylltu â gwybodaeth er mwyn i ni gael yr atebion sydd eu hangen arnom o'r diwedd.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth, rwy'n erfyn arno i wneud y peth iawn a chysylltu â'r heddlu, er mwyn i'm chwaer allu gorffwys gyda'i phlant o'r diwedd.
“Fyddwn ni fel teulu byth yn rhoi'r gorau i frwydro dros gyfiawnder.
“Ni welodd mam a dad gyfiawnder, ond rwy'n gobeithio y byddaf yn llwyddo i wneud hynny, er eu mwyn nhw.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru. Ffoniwch 101 neu drwy ebost: [email protected] gan ddyfynnu cyfeirnod 2200348104.