Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru, mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ymosod ar fenyw a'i thagu.
Cafodd Dylan Fuller, 26 oed (dyddiad geni 16/07/99) heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu am ymosod drwy daro, achosi niwed corfforol gwirioneddol a thagu bwriadol.
Digwyddodd y drosedd ddydd Sul 5 Hydref 2025 yn Abertawe, lle pwniodd Fuller ei ddioddefwr a'i thagu gan wneud iddi ofni am ei bywyd.
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 28 Hydref 2025, lle cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o ddwy flynedd yn y carchar. Mae hefyd yn destun gorchymyn atal am 5 mlynedd.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Gregory, “Ymosododd Dylan Fuller ar ei ddioddefwr yn ddigywilydd ac yn barhaus gan wneud iddi ofni am ei bywyd.
“Ni ddylai neb orfod wynebu'r math hwn o gamdriniaeth, ac rwy'n falch o weld bod Fuller wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd lai na mis ar ôl y drosedd.
“Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwr wrth roi gwybod i'r heddlu ac rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn ei helpu i symud ymlaen gyda'i bywyd”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr trais domestig siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath. Gall trais domestig effeithio ar unrhyw un ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, oed, rhywedd, rhywioldeb, neu gefndir cymdeithasol.
Os ydych chi'n cael eich cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu'n ariannol, neu'n cael eich bygwth neu eich stelcio gan bartner presennol neu gyn-bartner, neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef cam-drin domestig. Nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch roi gwybod i ni am gam-drin domestig ar-lein, ffonio 101, neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi neu os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Gallwch hefyd roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion cam-drin domestig, ewch i Beth yw cam-drin domestig? | Heddlu De Cymru. Dewch o hyd i ddolenni i gymorth lleol yn eich ardal yma Sefydliadau cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig | Heddlu De Cymru