Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Bentwyn wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Roedd Jonathan Grossett, 36 oed, o Bentwyn, yn destun gwarant mewn cyfeiriad yn y Rhws ar 12 Medi. Ar ôl i swyddogion fynd i mewn i'r eiddo, daethpwyd o hyd i Grossett yn eistedd ar y toiled, yn trio fflysio'i gocên i ffwrdd.
At hynny, cafodd cyfarpar cyflenwi cyffuriau, bagiau selio gwag a dros £200 mewn arian parod eu hadfer o'r eiddo.
Plediodd Grossett yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, caffael eiddo troseddol/ bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant a bod â chyffur rheoledig (cocên) yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a saith mis yn y carchar pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 29 Hydref.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bartley:
"Mae Jonathan Grossett yn ddyn arall a welodd gyffuriau Dosbarth A fel cynllun "cael cyfoeth sydyn"
“Mae cyffuriau yn bla ar ein cymunedau ac roedd Jonathan yn chwarae ei ran yn dod â'r gofid hwn i strydoedd Caerdydd.
“Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.”
Os byddwch yn amau bod rhywun yn delio cyffuriau neu'n poeni bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”