Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Llun, 13 Hydref, fe wnaethom gynnal ein hail ddigwyddiad 'Ras yn Erbyn Casineb' yng Nghanolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr.
Daeth y digwyddiad, sy'n rhan o Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ag oddeutu 100 o ysgolion cynradd a 1,500 o ddisgyblion ledled Merthyr a Rhondda Cynon Taf ynghyd i redeg mewn undod yn erbyn casineb. Nid ras yn unig oedd hon – roedd yn ddigwyddiad a amlygodd bŵer cyfunol ein cymunedau.
Dywedodd yr Arolygydd Richard Gardiner: "Roedden ni'n falch o fod wedi trefnu ein hail fersiwn o 'Ras yn Erbyn Casineb' lle daeth ysgolion lleol a'r gymuned ynghyd i ddangos eu hymrwymiad i wrthsefyll casineb.
"Fe groesawon ni oddeutu 1,500 o blant i'r digwyddiad a hefyd eu hathrawon, rhieni ac aelodau o'u teulu. Nod y thema 'Ras yn Erbyn Casineb' oedd addysgu a chodi ymwybyddiaeth am driniaeth pawb yn ein cymuned, ni waeth beth fo'u hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd.
“Mae'r digwyddiad hwn yn llawer mwy na chyfres o rasau. Gwnaethon ni gomisiynu ffilm, i'w ddangos ym mhob ysgol, sy'n cynnwys pobl adnabyddus o fyd chwaraeon ac adloniant a rhannodd negeseuon pwerus am gymorth a chyfeillgarwch. Drwy wneud hyn, gwnaethon ni gyrraedd nifer mawr o bobl ifanc – nid cyfle i redeg yn unig oedd hwn, ond cyfle i ddod ynghyd fel unigolion a chymunedau i geisio creu dyfodol heb gasineb."


