Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn. Cafodd Callum Randall, 27 oed o Portmead, ei ddedfrydu am ddau achos o ymosod drwy daro, difrod troseddol, ymddwyn mewn ffordd reolaethol a gorfodaethol ac ymgais i achosi niwed corfforol difrifol.
Bu'n cyflawni'r drosedd o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol dros gyfnod o sawl blwyddyn, gan gynnwys atal y dioddefwr rhag cysgu a bwyta.
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 24 Hydref 2025, lle cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 5 mlynedd yn y carchar. Mae hefyd yn destun gorchymyn atal am 15 mlynedd.
Dywedodd Rhingyll Draisey:
“Achosodd Callum Randall ddioddefaint mawr i'r dioddefwr drwy ei ymddygiad annerbyniol parhaus.
“Ni ddylai neb orfod wynebu camdriniaeth o'r fath, ac rwy'n gobeithio y gall y dioddefwr bellach symud ymlaen â'i bywyd.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr trais domestig siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath. Gall trais domestig effeithio ar unrhyw un ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, oed, rhywedd, rhywioldeb, neu gefndir cymdeithasol.
Os ydych chi'n cael eich cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu'n ariannol, neu'n cael eich bygwth neu eich stelcio gan bartner presennol neu gyn-bartner, neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef cam-drin domestig. Nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch roi gwybod i ni am gam-drin domestig ar-lein, ffonio 101, neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi neu os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Gallwch hefyd roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion cam-drin domestig, ewch i Beth yw cam-drin domestig? | Heddlu De Cymru. Dewch o hyd i ddolenni i gymorth lleol yn eich ardal yma Sefydliadau cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig | Heddlu De Cymru