Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd am 3:12pm, ddydd Llun 29 Medi 2025, ger Morrisons ar Ffordd y Mileniwm, y Barri.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Mercedes C220 du a'r cerddwr Jacqueline Ellis. Mae swyddogion o'r Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol yn apelio i unrhyw un sydd heb gysylltu â ni eto a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, y ffordd o yrru cyn y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw ddeunydd fideo camera dashfwrdd/CCTV a all fod yn berthnasol i'w hymchwiliad i wneud hynny.
Aethpwyd â Jacqueline Ellis i'r ysbyty mewn ambiwlans ond bu farw ar 10 Hydref, 2025.
Mae teulu Jacqueline wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi.
"Mae marwolaeth sydyn Jacqueline mewn amgylchiadau mor drychinebus yn golled enbyd.
Roedd gan Jacqueline galon aur a byddai'n gwneud popeth yn ei gallu i helpu unrhyw un.
Roedd Jacqueline yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu ymroddedig.
Bydd ein hatgofion o Jacqueline yn para am oes ac ni fyddwn ni fel teulu
na'r bobl oedd yn ei hadnabod byth yn anghofio'r atgofion sydd gennym gyda'n gilydd.
Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth, a gofynnwn yn awr am amser i alaru gyda'n gilydd.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu ddeunydd fideo, cysylltwch â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500312080.