Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 20 oed wedi cael euogfarn am lofruddiaeth dyn "hael, gofalgar a meddylgar" yng Nghaerdydd.
Cafodd rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd heddiw (29 Mai) Georgie Tannetta, 20 oed, yn euog o lofruddio James Brogan.
Caiff Tannetta ei ddedfrydu ar 27 Mehefin.
Bu farw James Brogan ar ôl cael ei drywanu gan Georgie Tannetta ar 12 Tachwedd.
Daethpwyd o hyd iddo gydag anafiadau difrifol ger y parc ‘trên’ ar Coleford Road, Llaneirwg, a bu farw yn yr ysbyty yn fuan wedyn.
Yn dilyn ei farwolaeth, gwnaeth teulu James Brogan ei ddisgrifio fel “hael, gofalgar, meddylgar, a digrifwr. Roedd wrth ei fodd yn gwneud i bobl wenu a chwerthin.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Roedd teulu a ffrindiau James Brogan yn meddwl y byd ohono ac maent yn ei golli bob dydd. Rwy'n gobeithio y bydd yr euogfarn yn Llys y Goron Casnewydd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i bawb a oedd yn ei adnabod a'i garu.
“Mae'r achos trychinebus hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol troseddau cyllyll. Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cyllyll drwy atal pobl rhag cario'r arfau hyn a chymryd camau cadarn yn erbyn y rheini y canfyddwn eu bod yn gysylltiedig â throseddau o'r fath. Os byddwch yn amau y gall rhywun fod yn cario cyllell, cysylltwch â'r heddlu. Gallai rhoi gwybod am hyn achub bywyd rhywun.”