Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diweddariad 18/12/25 8.50pm
Ddoe (17 Rhagfyr), cafodd dyn 86 oed ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze dros 30 o flynyddoedd yn ôl. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
***
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 86 oed mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze dros 30 mlynedd yn ôl.
Daethpwyd o hyd i'r cwpwl yn farw ag anafiadau saethu yn eu cartref ar fferm Tŷ Ar y Waun yn Llanhari ar 26 Gorffennaf 1993.
Dechreuodd Heddlu De Cymru adolygiad fforensig o'r achos yn 2023, ac mae ditectifs bellach wedi arestio unigolyn am lofruddiaethau Harry, 64 oed, a Megan 67 oed.
Cafodd y dyn ei arestio yn gynharach heddiw ac mae yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis:
“Er bod yr arestiad hwn yn amlwg yn ddatblygiad sylweddol yn yr ymchwiliad, mae ein hymholiadau yn parhau.
“Mae'r achos hwn wedi effeithio ar lawer o bobl ar hyd y blynyddoedd, a'n nod yw dod o hyd i'r atebion sy'n dal i fod heb eu hateb am farwolaethau cwpwl 30 mlynedd yn ddiweddarach. Hyd yn oed ar ôl yr holl amser, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y llofruddiaethau i gysylltu â'r heddlu.”
Ar fore dydd Llun 26 Gorffennaf, gadawodd Harry a Megan y fferm i gasglu eu pensiynau yn Llanhari, a chawsant eu gweld yn cyrraedd yn ôl am 11am.
Tua 1.30pm, cafodd dau ergyd gwn eu clywed gan gymdogion ond nid ystyriwyd bod hyn yn anarferol ar y fferm.
Cafodd yr heddlu eu galw pan na chafodd galwad reolaidd gan ferch y cwpwl ei hateb. Aeth swyddogion i'r fferm a daethant o hyd i gyrff Harry a Megan yn y beudy.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaethau Harry a Megan Tooze gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300016841.
Ar-lein: Public Portal
Ffôn: 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu drwy https://crimestoppers-uk.org/