Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw a geisiodd ddwyn bron £1,000 o eitemau harddwch wedi cael ei charcharu dros y Nadolig.
Dedfrydwyd Emma Faulkner, 48 oed, o'r Felin-wyllt, am bedair wythnos yn y carchar ar ôl pledio'n euog i ddwyn o siop.
Ar 13 Hydref, cafodd Faulkner ei stopio wrth iddi adael The Cosmetic Company yn McArthurGlen, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl iddi gael ei gweld yn dwyn eitemau o'r siop.
Cyfanswm yr eitemau a gafodd eu dwyn oedd £927.50.
Dywedodd PC Emma Thomas: “Bydd Faulkner yn teimlo cost y Nadolig hwn wrth iddi dreulio'r cyfnod yn y carchar.
“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod busnesau a siopwyr yn ein cymuned yn ddiogel. Gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi tawelwch meddwl iddynt y byddwn yn gweithredu ac yn sicrhau bod siopladron yn cael eu dwyn i gyfrif.”