Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Thomas Griffiths, 34 oed, of Riverside Close, Ynyshir, Porth, wedi cael ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar heddiw, ddydd Iau 18 Rhagfyr, am ddynladdiad Christian Dean. Plediodd Griffiths yn euog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ar 17 Tachwedd, 2025, yn dilyn digwyddiad trasig ar 26 Mehefin, 2025.

Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, ychydig cyn 1pm, cafodd Heddlu De Cymru alwad 999 yn rhoi gwybod bod Christian wedi cael ei anafu mewn eiddo ar Graig Road, Porth. Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon yn gyflym, ac ar ôl iddynt gyrraedd, daethpwyd o hyd i Christian yn gorwedd yn anymwybodol ar lawr y gegin. Roedd yr wybodaeth gychwynnol a roddwyd gan dystion yn y lleoliad yn awgrymu y gallai Griffiths fod yn gyfrifol am farwolaeth Christian, gan olygu bod yr heddlu wedi ei drin fel unigolyn dan amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd Griffiths ei arestio yn ei gartref yn Riverside Close ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol. Fodd bynnag, wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen, daeth i'r amlwg bod Christian wedi marw o'i anafiadau, a ysgogodd y swyddogion i arestio Griffiths unwaith eto ar amheuaeth o lofruddiaeth. Wrth iddo gael ei arestio, mynegodd Griffiths anghrediniaeth, gan ddweud "Wyt ti o ddifri? Fe yw fy ffrind gorau," ac yn ddiweddarach dywedodd "Beth sy'n digwydd?"
Yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa, mynnodd Griffiths dro ar ôl tro nad oedd yn berson treisgar, hyd yn oed wrth iddo fynd i'r afael â difrifwch y sefyllfa. Yn y diwedd, gwnaeth gydnabod y trasiedi, gan ddweud "Mae fy ffrind wedi marw."
Mae effaith marwolaeth Christian yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell llys. Mewn datganiad teimladwy am yr effaith arno, rhannodd un o frodyr Christian yr effeithiau emosiynol dwfn yr oedd y trasiedi wedi'u cael ar ei fywyd. "Mae marwolaeth Christian wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd. Roedd yn gwneud fy mywyd yn fwy diddorol yn y ffyrdd mwyaf syml, o fy ngwahodd ar nosweithiau allan yn lleol i rannu adegau llawen gyda'i dri phlentyn. Roedd ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth yn hanfodol o ran fy helpu i reoli fy iselder hirdymor, ond ers ei golli, rydw i wedi suddo yn ôl i'r tywyllwch hwnnw," meddai.
Parhaodd brawd Christian, "Mae'r golled wedi hollti ein teulu, wrth i bob un ohonom ymdopi â'n galar mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n torri fy nghalon i weld yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar blant Christian. Maen nhw mor ifanc ac ni ddylen nhw orfod wynebu colli eu tad mwn amgylchiadau mor drasig.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies a arweiniodd yr ymchwiliad: "Mae'r achos hwn yn amlinellu effaith erchyll trais ar deuluoedd a chymunedau. Rydym yn meddwl am deulu ac anwyliaid Christian yn y cyfnod eithriadol o anodd hwn. Rydym yn gobeithio bod y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gyfiawnder ac yn galluogi'r teulu i ddechrau gwella.
"Mae trasiedi marwolaeth Christian yn ein hatgoffa o ganlyniadau trais a'r effeithiau pellgyrhaeddol y gall eu cael ar deuluoedd a chymunedau. Wrth i Griffiths ddechrau ei ddedfryd, bydd gwaddol Christian yn parhau yng nghalonnau'r rhai a oedd yn ei garu."