Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau adeiladwr wedi cael eu carcharu ar ôl twyllo cwpwl oedrannus i wario eu cynilion bywyd.
Gwnaeth Dave McEvoy, 51 oed o'r Sblot, Caerdydd a Joseph Ellis, 21 oed o Basildon, Essex, dargedu cyfeiriad yn Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot cyn cytuno i “lanhau'r to” ar gyfer y dioddefwr 83 oed.
Ar ôl codi tâl o £1,000 ar y dyn i ddechrau, aeth y ddau i gartref y dioddefwr ar nifer o achlysuron i wneud y ‘gwaith’, ond ar bob achlysur gwnaethant ofyn i'r dioddefwr am fwy o arian wrth iddynt barhau i ddod o hyd i ‘ddiffygion’ yn y to.
Gwnaeth y ddau ddwyn cyfanswm o £33,200 o arian gan y dyn ym mis Gorffennaf 2024. Gwnaethant hefyd geisio darbwyllo'r cwpwl oedrannus i ailforgeisio er mwyn rhyddhau ecwiti.
Dangosodd adolygiad o fyngalo'r cwpwl y dylai'r gwaith fod wedi costio tua £700-800 yn unig.
Plediodd y ddau ddyn yn euog i dwyll drwy ymhoniad anwir ac maent wedi cael eu dedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rachel Thomas:
“Mae Dave McEvoy a Joseph Ellis yn fathau o droseddwyr nad ydynt yn teimlo unrhyw gywilydd wrth dwyllo pobl i'r fath raddau.
“Mae targedu cwpwl oedrannus ac agored i niwed nid dim ond unwaith, ond dro ar ôl tro nes eu bod wedi colli eu holl gynilion bywyd, yn dangos nad oes gan y ddau ddyn hyn unrhyw anrhydedd a pharch.
“Gwneud mwy o arian oedd yn bwysig i'r ddau ac nid oeddent yn poeni dim am y niwed roeddent yn ei achosi i fywydau'r dioddefwyr.”