Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ffrind i ddioddefwr yn rhoi gwybod i Heddlu De Cymru am ei sefyllfa.
Llun dalfa'r heddlu o Shaun Hill.
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ddau achos o dagu bwriadol.
Dechreuodd Shaun Hill, 30 oed, berthynas gyda'r dioddefwr 27 oed hwn ym mis Mawrth, 2024.
Dywedodd hi wrth yr heddlu ei fod wedi dechrau bod yn genfigennus, yn baranoid ac yn ddrwgdybus tua thri mis ar ôl dechrau eu perthynas.
Dechreuodd ymddangos yn ddirybudd pan oedd hi allan gyda'i ffrindiau ac roedd yn dreisgar pan oedd yn feddw.
Ar ôl dioddef am 12 mis, rhoddodd wybod i ffrind yn y pen draw, a gysylltodd â Heddlu De Cymru. Rhoddodd wybod ei fod wedi ei thagu nes nad oedd yn gallu anadlu pan oeddent ar wyliau ym Majorca – dywedodd ei ddioddefwr nad oedd yn gallu siarad er mwyn pledio ag ef i roi'r gorau iddi.
Cafodd ei arestio gan yr heddlu ac wrth iddo gael ei gwestiynu gan swyddogion yn y ddalfa, gwadodd Hill fod ganddo unrhyw wybodaeth am y digwyddiadau, gan ddweud bod eu perthynas yn ymddangos yn 'dda iawn'.
Ar ôl y cyhuddiadau, plediodd yn euog i ddau achos o dagu bwriadol a dydd Mercher, 29 Hydref, cafodd Shaun Hill o Philip Avenue, Bryntirion, ei garcharu am 41 mis. Cafodd ei wneud hefyd yn destun gorchymyn atal tan 2030.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, PC Adrien Kiernan: "Roedd ymddygiad Shaun Hill tuag at ei bartner yn ffiaidd ac mae nawr yn y carchar lle nad yw'n gallu peri bygythiad i eraill. Siaradodd y dioddefwr yn yr achos hwn â ffrind a'i hymyrraeth oedd y dechrau ar ddiwedd y cam-drin. Mae dioddefwyr trosedd o'r fath yn aml yn ofni ond gall rhoi gwybod i rywun maent yn ymddiried ynddo eu helpu i gymryd y cam cyntaf pwysig allan o sefyllfa drychinebus, fel mae'r achos hwn yn ei ddangos. Rwy'n gobeithio gall y dioddefwr symud ymlaen a rhoi'r cyfnod trawmatig hwn yn ei bywyd y tu ôl iddi.”