Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llun dalfa'r heddlu o Steven Vonk
Ymosododd Steven Craig Vonk, 51 oed o Abertawe, ar Timothy Matthews y tu allan i dafarn The Mill yn Brynmill ar 25 Gorffennaf eleni.
Mae Vonk wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar ar ôl ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad Mr Matthews mewn digwyddiad un ergyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Mae'r achos hwn yn dangos y canlyniadau difrifol y gall ymosodiadau un ergyd fel hyn eu cael. Byddwn yn annog eraill i feddwl pa mor hawdd y gall penderfyniad effeithio ar weddill eich bywyd a dod â bywyd rhywun arall i ben o bosibl.
“Dioddefodd Timothy Matthews anaf trychinebus i'r pen mewn ymosodiad cwbl ddi-sail ac mae ei farwolaeth wedi cael effaith aruthrol ar fywydau ei deulu a'i ffrindiau.”
Mewn Datganiad Personol Dioddefwr a ddarllenwyd yn y llys, dywedodd merch Mr Matthews, Serina:
“Roedd Dad yn gymeriad annwyl ac rwyf i, ei chwaer a phob un o'i ffrindiau yn ei golli'n fawr. Mae ein teulu a phawb yn y gymuned mewn sioc yn dilyn yr hyn sydd wedi digwydd. Ni fyddwn byth wedi gallu rhagweld y byddai bywyd dad yn dod i ben mor sydyn ar noson allan gyda'i ffrindiau, rwy'n cael cysur gan y ffaith y bydd ei atgof yn fyw.”
Dioddefwr yr ymosodiad, Timmy Matthews