Stamp amser presennol: 04/06/26 03:39:02
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dyn o Hirwaun wedi'i ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw yn erbyn plant

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 14:41 10/11/2025

Ddydd Gwener, 7 Tachwedd, cafodd Rowan Barnett-Davies, dyn 23 oed sy'n byw ar Brecon Road, Hirwaun, ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Casnewydd.

Rowan Barnett-Davies - 05.10.01.jpg

Cyn hyn, roedd wedi pledio'n euog i nifer o gyhuddiadau difrifol yn cynnwys troseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys 21 achos o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, tri achos o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn, 11 achos o rannu lluniau anweddus a saith achos o fod â lluniau anweddus, gwaharddedig ac eithafol yn ei feddiant.

Datgelodd yr ymchwiliad gan Heddlu De Cymru fod Barnett-Davies wedi camfanteisio ar 20 o ddioddefwyr, pob un ohonynt rhwng 12 ac 16 oed pan ddigwyddodd y troseddau. Derbyniodd swyddogion gudd-wybodaeth yn ymwneud â'r ffaith bod gan Barnett-Davies ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn ei feddiant, a ysgogodd ymchwiliad cynhwysfawr i'w weithredoedd.

Uwchgyfeiriwyd yr ymchwiliad ar 20 Rhagfyr, 2024, pan roddodd Heddlu Gorllewin Mersia wybod bod posibilrwydd bod Barnett-Davies yn cyfathrebu'n rhywiol â merch 13 oed. Rhoddodd mam y ferch wybod i'r heddlu ar ôl darganfod bod ei merch wedi bod yn cyfathrebu â Barnett-Davies ar-lein, yr honnir iddo anfon arian ati yn gyfnewid am luniau anweddus. Gan ymateb yn gyflym, aeth swyddogion o Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru i gartref Barnett-Davies y diwrnod canlynol.

Ar ôl cyrraedd ei breswylfa, daeth swyddogion o hyd i Barnett-Davies yn cysgu yn ei ystafell wely, gyda dau ffôn symudol wedi'u lleoli wrth ei ymyl. Cafodd ei arestio ar amheuaeth o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant a chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.

Wrth i'r ymchwiliad ddatblygu, arweiniodd chwiliadau pellach o gartref Barnett-Davies at atafaelu nifer o ffonau symudol. Cadarnhawyd bod y tri ffôn y daethpwyd o hyd iddynt yn ei ystafell wely yn perthyn iddo, a rhoddodd y cyfrineiriau angenrheidiol i'r swyddogion gael mynediad at y cynnwys a oedd arnynt.

Mewn ail arestiad ar 19 Mawrth 2025, daeth swyddogion o hyd i Barnett-Davies yn ei gartref eto. Cafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau ychwanegol, gan gynnwys bod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant a'u rhannu, ac annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol. Unwaith eto, cafodd rybudd, aeth yr ymchwiliad yn ei flaen ac atafaelwyd ffôn symudol arall.

Yn dilyn archwiliad trylwyr o'r dystiolaeth yn ei erbyn, plediodd Barnett-Davies yn euog i'r cyhuddiadau.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amy Partridge o Heddlu De Cymru:

"Mae euogfarn Rowan Barnett-Davies yn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn plant rhag pobl sydd am gamfanteisio arnynt. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddwyn y sawl sy'n targedu pobl sy'n agored i niwed o flaen eu gwell.

"Mae penderfyniad y llys yn anfon neges glir na fyddwn yn goddef gweithredoedd ffiaidd o'r fath, a bydd troseddwyr yn wynebu canlyniadau difrifol. Rwy'n annog unrhyw un sy'n amau achos o gamfanteisio ar blant i roi gwybod amdano ar unwaith."

Rydym yn cydnabod dewrder anhygoel goroeswyr cam-drin rhywiol wrth rannu eu profiadau. Mae'n gam anodd, a hoffwn roi sicrwydd i chi y byddwch yn cael eich clywed, eich trin ag urddas, a'ch cefnogi ar bob cam o'r ffordd drwy'r broses farnol.

Os ydych wedi profi cam-drin rhywiol ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu, cofiwch nad oes rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Mae nifer o adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael i'ch helpu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth yma: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/cymorth-treisio-ymosodiadau-rhywiolual-assault/

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.