Stamp amser presennol: 04/06/26 04:22:07
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Pump yn cael eu dedfrydu i 19 o flynyddoedd am droseddau cyffuriau

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 17:32 21/11/2025

Mae pump o bobl o Rondda Cynon Taf wedi cael eu dedfrydu i fwy na 19 mlynedd am droseddau cyffuriau.

Ar ôl i Heddlu De Cymru gyflawni gwarant mewn eiddo yn Tylorstown, Glynrhedynog, mae pump o bobl wedi'u dedfrydu mewn cysylltiad â throseddau cyffuriau.

Roedd y warant yn rhan o Ymgyrch Oonopsis, sef ymgyrch barhaus i fynd i'r afael â grwpiau troseddu cyfundrefnol difrifol a chyflenwad cyffuriau a tharfu arnynt.

Oonopsis sentencing cropped.png

Ar 26 Mawrth, gwnaeth swyddogion o'r Uned Troseddau Cyfundrefnol gyflawni gwarant mewn eiddo ar East Road, Tylorstown, Glynrhedynog lle credwyd bod Stephen Williams yn byw.

Ar ôl mynd i mewn, daethant o hyd i Williams ar ben ei hun mewn ystafell wely i fyny'r grisiau. Wrth chwilio'r eiddo, daethant o hyd i goffor mewn ystafell wely flaen. Honnodd Williams nad oedd ganddo'r allwedd a dywedodd ei fod yn rhentu'r ystafell i "Ferret," a gafodd ei adnabod yn ddiweddarach fel Kyle Hughes. Defnyddiodd swyddogion rym i agor y coffor, a daethant o hyd i 1,681 gram o gocên, cloriannau pwyso a bagiau brechdan a ddefnyddiwyd fel pecynnau cyffuriau.

Cafodd Williams ei arestio am feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Daeth swyddogion o hyd i ddeunyddiau pecynnu gydag olion cocên arnynt hefyd a dywedodd Williams mai rhai Hughes oedd y rhain.

Mae'r eitemau eraill a gafodd eu hatafaelu yn cynnwys:

  • Ffôn symudol Samsung

  • iPhone Apple

  • Bagiau snap gwag

  • Coffor du

  • Papur £20

  • Amrywiaeth o gyfarpar cyffuriau

Wrth chwilio, gwelodd arolygwyr ynni E.ON fod y mesurydd trydan yn cael ei ddargyfeirio, a oedd yn achosi risg tân. Cafodd Williams ei arestio'n ddiweddarach am ddargyfeirio trydan.

Yn dilyn datganiadau Williams am Hughes, aeth swyddogion i chwilio amdano, a gwnaethant stopio ei Renault Megane yn y pendraw. Cafodd Hughes ei chwilio, ac arweiniodd hyn at ganfod £7,000 mewn arian parod, ac o ganlyniad cafodd ei arestio am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Daethpwyd o hyd i ffatri canabis fach gyda 17 o blanhigion wrth chwilio cartref Hughes.

Tua 6.45pm yr un diwrnod, arestiodd swyddogion Matthew Perkins, a oedd wedi talu £25,000 i Hughes, am ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A. Daethpwyd o hyd i swm mawr o gocên yn eiddo Perkins, yn debyg i'r hyn a atafaelwyd yn eiddo Williams.

Honnodd Perkins nad oedd yn gwybod dim amdano, a chafodd Ashley Murphy a Sara Qamber, a oedd yn bresennol yn ystod y broses arestio, eu cyhuddo hefyd.

Tystiolaeth ffôn symudol:

  • Nid oedd negeseuon ar ffôn Williams yn ymwneud â chyffuriau, ond gwnaethpwyd gwaith dadansoddi pellach am fod negeseuon wedi'u dileu.

  • Roedd tystiolaeth ar ffôn Hughes o drosglwyddiad ariannol diweddar gan Qamber.

  • Dangosodd ffôn Murphy ei fod yn cymryd rhan weithredol mewn cyflenwi cyffuriau, gan gynnwys cynigion gwerthu.

  • Roedd ffôn Qamber yn cynnwys negeseuon yn trafod trafodion cyffuriau a chysylltiadau â Hughes.

Heddiw, cafodd y pump eu dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful i'r canlynol:


Kyle Hughes - 31.07.94.jpg
Kyle Hughes, 31, o Penrhys Avenue, Tylorstown, Glynrhedynog – dedfrydu i bum mlynedd, 11 mis, am fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ymwneud â chyflenwi cocên; cynhyrchu canabis

 

Ashley Murphy - 31.08.88.jpg
Ashley Murphy, 37, o Cefn Bryn, Trebanog, Porth – dedfrydu i ddwy flynedd, pedwar mis, am ymwneud â chyflenwi cocên

 

Matthew Perkins - 03.08.82.jpg
Matthew Perkins, 43, o Upper Gynor Place, Ynyshir, Porth – dedfrydu i bum mlynedd, saith mis, am fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod ym meddiant cocên, ac ymwneud â chyflenwi cocên

 

Sara Qamber - 09.07.95.jpg
Sara Qamber, 30, o Park View, Llanharan, Pontyclun - dedfrydu i ddwy flynedd, saith mis, am ymwneud â chyflenwi cocên

 

Stephen Williams - 23.03.84.jpg
Stephen Williams, 41, of East Road, Tylorstown, Glynrhedynog - dedfrydu i ddwy flynedd, naw mis, am ymwneud â chyflenwi cocên

 

Mae'r ymchwiliad hwn yn dangos y rhwydwaith sylweddol sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A a'n hymdrechion parhaus i darfu ar y gweithgareddau hyn.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.