Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i ganfod yn euog o lofruddio ei frawd ei hun.
Daethpwyd o hyd i gorff Martin Steel, 48 oed, mewn cyfeiriad yn Hill View Crescent, y Clâs, yn fuan ar ôl 10:30am ddydd Sadwrn 20 Mai 2023.
Plediodd Darren Steel, 41 oed o Dreforys, yn ddieuog i lofruddiaeth a dynladdiad Martin ym mis Chwefror 2024, ond mae rheithgor wedi ei ganfod yn euog o lofruddiaeth heddiw.
Caiff Steel ei ddedfrydu ar Chwefror 13.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville:
“Mae'r ymchwiliad hwn i ddigwyddiad a wnaeth syfrdanu cymunedau'r Clâs, Treforys a chymuned ehangach Abertawe wedi bod yn hir a chymhleth. Mae'r effaith ar y teulu wedi bod yn sylweddol.
“Bradychodd Darren Steel ei frawd hŷn yn y ffordd waethaf bosibl ac achosodd ofid pellach drwy bledio'n ddieuog a gorfodi'r teulu i fynd drwy ddau achos llys.
“Rydym yn teimlo rhyddhad o glywed y canlyniad ac yn falch bod yr achos llys bellach wedi dod i ben. Rydym yn meddwl am y teulu.”