Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau yn ymwneud â chyffuriau Dosbarth A.
Mae Lee Austin, 35 oed o Lantrisant, wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a dau fis yn y carchar ar ôl pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi cocên a bod â chrac cocên yn ei feddiant.
Mae Tegan Smith, 21 oed o Gaerdydd, wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar ar ôl pledio'n euog i fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cawsant eu dedfrydu ddydd Mawrth 10 Chwefror 2026 yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd pan welodd swyddogion o'r uned troseddau cyfundrefnol Ford Fiesta coch yr oedd yr heddlu yn gwybod ei fod yn gysylltiedig â defnyddwyr cyffuriau yn Nhonysguboriau.
Yna, dilynodd y swyddogion y car cyn iddo stopio ar stryd bengaead, lle gwnaethant arestio Austin, a oedd yn gyrru'r car. Llwyddodd Smith i ffoi rhag y swyddogion, ond gadawodd fag du a siaced du ar ei ôl. Pan chwiliodd y swyddogion drwy'r bag, daethant o hyd i nifer o roliau o grac cocên a swm bach o arian parod. Daeth y swyddogion hefyd o hyd i ffôn symudol a rhagor o grac cocên ym mhoced siaced Smith.
Cafodd Smith ei arestio yn ddiweddarach.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Jonathan Jones, “Yn ogystal â'r effaith negyddol sylweddol ar aelodau'r gymuned, mae meddu ar gyffuriau a'u cyflenwi hefyd yn aml yn gysylltiedig ag achosion o gamfanteisio ar bobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed.
“Does dim lle i'r cyffuriau hyn yn ein cymunedau”
“Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi ac yn gobeithio y bydd yn rhoi amser i Austin a Smith fyfyrio ar eu gweithredoedd.”