Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Andrew Davies, 38 oed, o Ferthyr, wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a 219 o ddiwrnodau yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Davies ei ddedfrydu ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, lle plediodd yn euog i ymwneud â chyflenwi heroin a chaffael/defnyddio eiddo troseddol.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd pan oedd swyddogion yn cynnal patrôl yng nghanol tref Merthyr Tudful ym mis Rhagfyr 2025. Roedd swyddogion yn teithio ar y Stryd Fawr, lle gwelsant Davies yn defnyddio ffôn symudol ‘dros dro’ ac yn aros ar gornel y Stryd Fawr. Mae hefyd wedi bod yn destun ymchwiliad blaenorol i gyflenwi cyffuriau, lle cafodd ei nodi fel unigolyn dan amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth A a reolir.
Cafodd Davies ei arestio a'i chwilio, a gwelwyd bod ganddo dros £5,000 mewn arian parod a'r ffôn Nokia yn ei feddiant. Pan gafodd data'r ffôn eu lawrlwytho, gwelwyd bod Davies wedi anfon sawl neges yn cynnig gwerthu heroin.
Dywedodd y Rhingyll Andrew Carver, "Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyffuriau a sicrhau bod y rheini sydd am elwa o'r gweithgareddau anghyfreithlon hyn yn wynebu goblygiadau eu gweithredoedd. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i wneud ein cymunedau'n fwy diogel”
Roedd Davies yn ddeliwr cyffuriau adnabyddus felly mae ei dynnu oddi ar ein strydoedd yn dangos ein hymrwymiad i ddod â phla cyffuriau ar ein cymunedau i ben."