Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Jamie Jessett, 48 oed, o Ferthyr Tudful, wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a 219 o ddiwrnodau yn y carchar yn dilyn ei euogfarn am gyflenwi cocên, heroin a chanabis.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau 29 Ionawr 2026 yn Llys y Goron Merthyr Tudful, lle plediodd Jessett yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, heroin a chanabis.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd â swyddogion o'r uned troseddau cyfundrefnol yn ceisio dod o hyd i Jessett, yr oeddem yn credu ei fod yn rhedeg llinell gyffuriau weithredol.
Ym mis Hydref 2025, llwyddodd swyddogion i ddod o hyd i Jessett, drwy weld car yr oeddent yn gwybod ei fod yn ei ddefnyddio ym Merthyr Tudful. Cyn cynnal chwiliad yn y cyfeiriad, gwelwyd Jessett yn taflu ffôn symudol o'r llawr uchaf i'r ardd, a thaflodd becyn gwyn bach "maint pêl-droed" i ardd y cymydog.
Yn ystod y chwiliad o'r ffôn symudol gwelwyd bod Jessett wedi anfon dros 2,800 o negeseuon testun yn cynnig cyffuriau amrywiol rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2025. Daethpwyd o hyd i gloriannau a rhagor o baraffernalia cyffuriau amrywiol yn ystod y chwiliad o'r eiddo.
Dywedodd y Cwnstabl Jonathan Davies "Yn ogystal â'r effaith negyddol sylweddol ar aelodau'r gymuned leol, mae meddu ar gyffuriau a'u cyflenwi hefyd yn aml yn gysylltiedig ag achosion o gamfanteisio ar bobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed.
“Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi ac yn gobeithio y bydd yn rhoi amser i Jessett fyfyrio ar ei weithredoedd.”