Stamp amser presennol: 04/06/26 03:31:15
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carchar i dri dyn am droseddau arfau tanio

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 16:10 29/04/2026

Mae tri dyn o Ferthyr Tudful wedi cael eu carcharu yn dilyn digwyddiad yn ymwneud ag arfau tanio yn ardal y Gurnos ddydd Sadwrn 9 Awst 2025.

Ymddangosodd Rhys Mew, 25 oed, Jack Mew, 19 oed, a Garyn Marshall-Palmer, 20 oed, pob un ohonynt o'r Gurnos ym Merthyr Tudful, gerbron y llysoedd yn dilyn ymchwiliad helaeth gan Heddlu De Cymru.

Tua 12.30am ddydd Sul 10 Awst 2025, daeth Heddlu De Cymru yn ymwybodol o ffrwgwd oedd wedi digwydd yn y Gurnos, ger Magnolia Close.

Cafodd y dioddefwr ei adnabod, ond ni chynorthwyodd ymchwiliad yr heddlu. Er hynny, parhaodd Heddlu De Cymru i ymchwilio i'r digwyddiad.

Ar ôl mwy o waith ymchwilio, cynnal chwiliadau, ac adroddiadau gan dystion, canfuwyd bod tri dyn wedi bygwth dyn arall, a daethpwyd o hyd i ffôn symudol a chasin bwled 9mm yn y lleoliad.

Roedd y ffôn yn cysylltu’r ddyfais â Rhys Mew. Ar y ffôn, roedd clipiau ohono yn gwneud bygythiadau, ac roedd fideos o’r noson ar 9 Awst lle’r oedd Jack Mew a Palmer yn bresennol.

Cafodd y tri dyn eu harestio. Wrth chwilio cartref Mew, daeth swyddogion o hyd i dair bwled oedd wedi cael eu cuddio yn yr atig, a dangosodd lluniau teledu cylch cyfyng fod Mew wedi cuddio arf tanio mewn bag cyn teithio gyda'r dynion eraill mewn BMW 1 Series ar ôl y digwyddiad. Cadarnhaodd profion fforensig yn ddiweddarach fod y casin a gafodd ei adfer wedi cael ei danio gan bistol hunan-lwytho.

Yn dilyn pledion euog ar 6 Chwefror 2026, ymddangosodd y tri dyn gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful i gael eu dedfrydu ar Ebrill 27.

SWP_RhysMew310500_Custody.jpg
Rhys Mew

 

Cafwyd Rhys Mew yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn o drais a bod â bwledi a chetris ar gyfer arf tanio yn ei feddiant heb dystysgrif.

Cafodd Mew ei ddyfarnu'n euog a'i ddedfrydu mewn cysylltiad ag ymchwiliad arall hefyd, lle plediodd yn euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên, ymwneud â chyflenwi cocên, bod â chyffur dosbarth A a reolir - cocên - yn ei feddiant gyda'r bwriad o’i gyflenwi, cynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A a reolir - crac cocên, a chynllwynio ag eraill i ymwneud â chyflenwi cocên. Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o wyth mlynedd a thri mis yn y carchar.

SWP_JackMew221106_Custody.jpg
Jack Mew

 

Cafwyd Jack Mew yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn o drais a bod â bwledi a chetris ar gyfer arf tanio yn ei feddiant heb dystysgrif. Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.

SWP_GarynMarshallPalmer211205_Custody.jpg
Garyn Marshall-Palmer

 

Cafwyd Garyn Marshall-Palmer yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn o drais. Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a naw mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jonathan Allen:

“Roedd hwn yn ymosodiad peryglus a brawychus lle cafodd arf tanio ei danio mewn ardal breswyl. Er bod troseddau sy'n ymwneud ag arfau tanio yn anghyffredin iawn, byddai hyn wedi peri pryder i’r trigolion lleol yn sicr.

"Er nad oedd y dioddefwr yn barod i gynorthwyo’r ymchwiliad, llwyddodd swyddogion i gyfuno tystiolaeth o luniau teledu cylch cyfyng, tystiolaeth ddigidol, a'r hyn y dywedodd tystion wrthynt i sicrhau bod yr unigolion peryglus hyn yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Does dim lle i arfau tanio na throseddau sy'n ymwneud â chyffuriau yn ein cymunedau, ac mae'r achos hwn yn dangos y byddwn yn gweithio'n ddiflino i fynd ar ôl y rhai sy’n troseddu."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.