Stamp amser presennol: 18/06/26 08:20:52
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu stelciwr am dair blynedd

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg
Cyhoeddwyd: 11:47 24/04/2026
SWP_ZulfkarAhmed130159_Custody.jpg
Zulfkar Ahmed

 

Mae dyn a stelciodd ddwy ferch ifanc wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.

Mae Zulfkar Ahmed, 67 oed o Grangetown, wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ddau gyhuddiad o stelcio gan gynnwys achosi braw a gofid difrifol, ac un cyhuddiad o dorri amodau gorchymyn atal stelcio.

Roedd Ahmed, a gafodd ei garcharu ar 15 Ebrill, wedi pledio'n ddieuog i'r troseddau ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn dilyn achos llys dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Llys y Goron Caerdydd ar 13 Chwefror.

Clywodd y llys fod Ahmed wedi stelcio dau ddioddefwr. Stelciodd yr un dioddefwr rhwng 2022 a 2025, a'r llall rhwng 2024 a 2025.

Gwnaeth Ahmed gwrdd â'r ddwy fenyw am y tro cyntaf yn eu lle gwaith. Dechreuodd y dioddefwr cyntaf, oedd yn 24 oed ar y pryd, sgwrsio ag Ahmed oedd yn gwsmer mewn caffi yr oedd hi'n gweithio ynddo. Dywedodd Ahmed wrth y dioddefwr y gallai gynnig swydd iddi ac, ar ôl cryn ddarbwyllo ar ran Ahmed, rhoddodd y dioddefwr ei rhif ffôn iddo.

Er bod y negeseuon tesun a gafodd eu hanfon yn ôl ac ymlaen yn gyfeillgar i ddechrau, dechreuodd y dioddefwr deimlo’n anghyfforddus gyda’r negeseuon yr oedd Ahmed yn eu hanfon ati, a stopiodd ymateb. Dros gyfnod o dair blynedd, roedd Ahmed wedi anfon dros 10,000 o negeseuon testun at y dioddefwr er iddi roi’r gorau i ymateb iddo a'i rhwystro.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Ahmed yn mynd i le gwaith y dioddefwr yn rheolaidd, ei chwistrellu â phersawr, mynd i fyny ati yn y stryd, a cheisiodd roi pwrs iddi y gwnaeth ei wrthod. Prynodd fag iddi hefyd, gan roi rhif y dioddefwr i weithiwr mewn siop fel y gallai ei ffonio i ddweud wrthi am gasglu'r anrheg ddigymell.

Gwnaeth yr ail ddioddefwr, oedd yn 18 ar y pryd, gwrdd ag Ahmed am y tro cyntaf yn y gwaith yn 2024. Ar ôl gofyn iddi am help, dechreuodd Ahmed ofyn cwestiynau personol a chynigiodd ei helpu gyda'i hastudiaethau. Ceisiodd ofyn beth oedd ei phatrymau shifft hefyd cyn iddi gerdded i ffwrdd.

Parhaodd i fynd i’w lle gwaith, ac roedd rhaid iddi symud i ardaloedd ‘staff yn unig’ yn y siop er mwyn ei osgoi. Byddai'n gofyn i aelodau eraill o staff ble roedd hi, a phan ddywedodd un ohonynt gelwydd wrtho - gan ddweud nad oedd hi yn y gwaith - gwnaeth Ahmed ei herio a dweud bod ei char yn y maes parcio. Pan heriodd rheolwyr ymddygiad Ahmed, dywedodd nad oedd e erioed wedi dweud unrhyw beth o natur rywiol.

Cafodd Ahmed ei wneud yn destun gorchymyn atal stelcio ar ôl hynny. Credir mai dyma’r gorchymyn cyntaf ar gyfer achos o stelcio gan ddieithryn yng Nghaerdydd a'r Fro.

Torrodd amodau’r gorchymyn hwn pan ddilynodd un o'r dioddefwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Poppy Gosling, y swyddog ymchwilio: "Mae Ahmed yn ddyn sy’n peri pryder, a gafodd ffantasïau am ei ddioddefwyr a wnaeth iddynt deimlo’n ofnus ac yn fregus yn eu lle gwaith, a thu allan i’r gwaith hefyd.

“Ni allaf ond canmol a diolch i'r dioddefwyr am eu hyder wrth roi gwybod am ei ymddygiad. Rwy'n ddiolchgar am eu hamynedd drwy gydol yr achos llys a gobeithio y bydd ei gyfnod yn y carchar yn helpu i roi rhywfaint o heddwch iddynt.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.