Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dau ddyn o'r Rhondda eu carcharu ddydd Iau 9 Ebrill am gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chanabis.
Cafodd Coran Davies, 23 oed o'r Porth, ei arestio ar ôl i swyddogion ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ôl-weithredol ar lun yr oedd wedi'i anfon at ffôn ffrind a oedd yn ddeliwr cyffuriau.
Roedd y llun yn ei ddangos mewn cadair deintydd yn Nhwrci yn dilyn triniaeth i gael dannedd newydd, ac roedd negeseuon pellach yn cyfeirio at gyflenwi cocên a chanabis.
Yn ddiarwybod iddo, roedd ditectifs eisoes yn dadansoddi data ar ffôn ei ffrind, yn rhan o ymchwiliad parhaus.
Ar 25 Medi, roedd swyddogion wedi gweithredu gwarant chwilio yn Nhreherbert o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, lle daethant o hyd i owns o gocên, canabis a geriach cyffuriau.
Fisoedd yn ddiweddarach, ar 7 Mawrth 2026, gwelodd swyddogion mewn dillad plaen Davies yn gyrru drwy Donypandy mewn Ford Fiesta, ac fe wnaethon nhw ei arestio.
Roedd Dale Howell, 25 oed o'r Porth, yn deithiwr yn y car. Cafodd ei arestio hefyd.
Cafodd y ddau ddyn eu chwilio a gwelwyd bod ganddynt gocên, canabis a miloedd o bunnoedd mewn arian parod yn eu meddiant.
Gwnaethant bledio'n euog i droseddau cyffuriau a chaffael eiddo troseddol, sef arian. Ymddangosodd y ddau gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau 9 Ebrill i gael eu dedfrydu.
Cafodd Coran Davies ei garcharu am 48 mis a chafodd Dale Howell ei garcharu am 36 mis.