Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae “dyn sy'n fwli ac yn beryglus” wedi cael ei garcharu am dreisio.
Cafodd y dyn 50 oed o Sain Tathan ym Mro Morgannwg ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddoe (dydd Iau, 30 Ebrill).
Plediodd yn euog i achos o dreisio mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Caerdydd.
Mewn Datganiad Personol Dioddefwr a ddarllenwyd i'r llys, disgrifiodd y dioddefwr effaith trosedd White arni.
Dywedodd:
“Alla i ddim anghofio'r noson honno pan gollodd reolaeth a fy nhreisio.
“Gwnaeth fy mrifo'n emosiynol ac yn gorfforol... Mae'n fwli ac yn ddyn peryglus.
“Dw i ddim yn hoffi gadael fy nhŷ mwyach oherwydd fy mhryder.”
Cafodd White ei ddedfrydu i 39 mis yn y carchar a chafodd ei wneud yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol, yn ogystal â'r gorchymyn atal.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Jamie Dale o Heddlu De Cymru:
“Mae'r dioddefwr yn yr achos hwn wedi dangos dycnwch mawr drwy gydol yr ymchwiliad.
“Dangosodd hefyd gryfder mawr wrth ddarllen ei Datganiad Personol Dioddefwr yn y llys.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn ei helpu i ailadeiladu ei bywyd a gwella ar ôl y digwyddiad erchyll hwn.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.