Stamp amser presennol: 04/06/26 03:31:15
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu grŵp o ddynion o Western-super-Mare am losgi bwriadol

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr
Cyhoeddwyd: 16:19 10/04/2026

Mae pedwar dyn o Western-super-Mare wedi cael eu carcharu ar ôl ymosod ar dŷ yn Stryd Protheroe, Glynrhedynog, drwy ei losgi.

Ymosododd Connor Pitt, 24 oed, Auryn Gustur, 19 oed, Alfie Wheeler, 19 oed, a Lewis Manito, 33 oed, ar gartref mam-gu 82 oed oherwydd fendeta troseddol, o dan gyfarwyddyd grŵp troseddau cyfundrefnol wedi’i leoli y tu allan i'r DU.

ferndale collage.png
Connor Pitt, Auryn Gustur, Alfie Wheeler, Lewis Manito

 

Ychydig ar ôl 11pm ar 27 Gorffennaf 2025, gyrrodd Storm Truman, 19 oed o Western-super-Mare, ei Seat Ibiza gwyn o ardal Western-super-Mare i stryd yng Nglynrhedynog gyda Wheeler a Gustur yn y cerbyd. Yno, fe wnaethant gyfarfod â Pitt, a gafodd ei yrru i ardal de Cymru gan Lewis Manito. Ni chafodd y car a ddefnyddiwyd gan Manito ei adfer.

Roedd gan y gang ddau gan petrol. Aeth Pitt i mewn i'r Seat Ibiza, a gyrrodd Truman y tri dyn i Stryd Protheroe er mwyn iddynt gyflawni'r ymosodiad yn ystod oriau mân y bore ar 28 Gorffennaf. Rhoddwyd gwybod i'r heddlu am y tân am 01:25am, ac roedd y pedwar dyn yn y ddalfa erbyn 01:50am.

Dangosodd lluniau teledu cylch cyfyng Wheeler a Pitt yn agosáu at y cyfeiriad gyda chaniau petrol gwyrdd yn eu llaw, wrth i Gustur ddefnyddio ei ffôn i ddarlledu'r ymosodiad.

Defnyddiwyd tanwydd a lledaenodd y tân i ochr flaen y tŷ a'r ceir y tu allan i'r cyfeiriad yn syth. Roedd y dioddefwr oedrannus yn cysgu lawr grisiau ond fe wnaeth sŵn y gwydr yn torri ei dihuno. Gellir ei chlywed yn sgrechian ar y teledu cylch cyfyng wrth i'r tŷ fynd ar dân.

Diolch i gymorth gan gymdogion a swyddogion, llwyddodd y dioddefwr i adael y tŷ yn ddiogel, wrth i'r pedwar dyn ffoi o'r lleoliad. Cyrhaeddodd swyddogion y stryd yn fuan ar ôl hynny a symud trigolion o’u cartrefi. Cyrhaeddodd y gwasanaeth tân a chafodd digwyddiad difrifol ei gyhoeddi yn ddiweddarach. 

Achoswyd gwerth tua £650,000 o ddifrod i dri eiddo, cynnwys y tri eiddo, a char.

Cynhaliodd swyddogion ymholiadau teledu cylch cyfyng ar unwaith a gwelsant fod y tân wedi'i gynnau'n fwriadol. Sylwodd swyddogion ar forthwyl torri gwydr i'w ddefnyddio mewn argyfwng ar y stryd a gwnaethant ei atafaelu.

Dywedodd tystion eu bod wedi gweld car amheus yn y stryd eiliadau cyn y tân, a llwyddon nhw i roi rhan o'r rhif cofrestru i'r heddlu.

Tra oedd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen, gwelodd swyddog plismona’r ffyrdd oedd ar batrôl ac yn gyrru ar hyd yr A470 tuag at Gyfnewidfa Coryton y Seat Ibiza gwyn. Roedd y swyddog wedi cael gwybod bod y car wedi teithio o ardal Gwlad yr Haf yn ddiweddar, lle'r oedd y cerbyd wedi’i gofrestru, i gymoedd y Rhondda, a'i fod wedi dychwelyd yn fuan iawn wedyn. Dangosodd gwybodaeth fod y cerbyd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau rheoledig.

Defnyddiwyd cadwyn bigog i stopio'r car ac fe gafodd y bobl yn y cerbyd eu harestio. Roedd machete, morthwyl, menig a balaclafa yn y car. Gwelwyd hefyd fod rhywun wedi rhoi cyfeiriad Stryd Protheroe yn nyfais llywio lloeren y Seat.

Wrth ddadansoddi data o'r ffonau symudol a gafodd eu hatafaelu o'r Seat Ibiza, nodwyd bod Lewis Manito wedi bod yn rhan o'r ymosodiad. Fe'i harestiwyd gan heddlu Avon a Gwlad yr Haf ym mis Awst 2025.

  • Plediodd Pitt yn euog i gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a chafodd ei ddedfrydu i 18 mlynedd.
  • Plediodd Gustur yn euog i gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a chafodd ei ddedfrydu i 15 mlynedd a 6 mis.
  • Plediodd Wheeler yn euog i gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a bod ag eitem lafnog yn ei feddiant (mewn perthynas â'r machete a ganfuwyd yn y car wrth iddo gael ei arestio). Cafodd ei ddedfrydu am 13 mlynedd.
  • Plediodd Manito yn euog i gynnau tân yn fwriadol gan beryglu bywyd yn ddiofal a gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei ddedfrydu i 9 mlynedd.

Cafwyd Storm Truman yn ddieuog o gynnau tân yn fwriadol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:

“Roedd hwn yn ymosodiad llwfr ar gartref menyw 82 oed a gafodd ei drefnu a'i gyfarwyddo gan droseddwr, a hynny oherwydd dyled wedi’i chysylltu ag aelod o deulu’r dioddefwr.  Roedd y dioddefwr yn gwbl ddiniwed.
“Gwnaeth y rhai a gyflawnodd yr ymosodiad wneud hynny er budd ariannol. Nid oeddent yn poeni dim am sut y byddai'n effeithio ar y person yn y tŷ na'r cymdogion. Bydden nhw wedi clywed y dioddefwr yn sgrechian wrth iddynt gynnau'r tân a rhedeg i ffwrdd. Dim ond lwc oedd hi na chafodd neb eu lladd yn yr ymosodiad yma.
“Diolch i broffesiynoldeb ein Huned Plismona'r Ffyrdd, cafodd pedwar dyn eu harestio'n gyflym wrth iddynt deithio i gyfeiriad yr M4.
“Gweithiodd tîm o ymchwilwyr ymroddedig yn ddiflino i gasglu tystiolaeth allweddol ac adnabod unigolion eraill oedd yn rhan uniongyrchol o'r ymosodiad er mwyn dod â nhw o flaen eu gwell.
“Hoffwn ddiolch i DC Cath Moore, y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, am y gofal a'r sylw a roddwyd wrth gasglu tystiolaeth gymhellol i Wasanaeth Erlyn y Goron gael ei chyflwyno yn y llys, gan fod hynny wedi arwain at bledion euog.
“Yn anad dim, hoffwn ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn, a'i theulu, am eu dewrder a'u hamynedd wrth i ni ymchwilio i'r mater.
“Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol bod yr ymchwiliad i ddod o hyd i'r person a gynlluniodd yr ymosodiad hwn, a'i ddwyn i gyfrif, yn parhau.”

 

Connor Pitt.png
Connor Pitt

 

Auryn Gustur.png
Auryn Gustur

 

Alfie Wheeler.png
Alfie Wheeler

 

Lewis Manito.png
Lewis Manito

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.