Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i swyddogion chwilio tŷ a darganfod canabis a sawl oriawr werthfawr.
Cafodd Christopher Williams, 38 oed o Aberpennar, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cael ei euogfarnu.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener 10 Ebrill yn Llys y Goron Caerdydd lle plediodd Williams yn euog i fod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, gyrru'n beryglus a chaffael/defnyddio eiddo troseddol.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Aberpennar ym mis Ionawr 2026. Tra oeddent yno, gyrrodd Williams i ffwrdd yn gyflym yn ei Volkswagen Golf. Parhaodd swyddogion i chwilio’r eiddo a daethant o hyd i nifer o fagiau clir yn cynnwys canabis, ynghyd â chloriannau a nifer o eitemau gwerthfawr, gan gynnwys esgidiau Nike a sawl oriawr Rolex.
Dychwelodd Williams i'r cyfeiriad yn ddiweddarach ac fe gafodd ei arestio. Daethpwyd o hyd i’w gar ac aeth swyddogion ati i’w chwilio. Daethant o hyd i fwy o esgidiau gwerthfawr yn y car. Hwn oedd y trydydd tro i Williams fod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Cameron Allcock, “Dyma oedd trydedd drosedd Williams o fewn y pum mlynedd diwethaf; bydd e’n awr yn wynebu dedfryd hirach o lawer o ganlyniad i hyn”
Rydym yn parhau i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau ledled ardal yr heddlu a gallai unrhyw wybodaeth sydd gennych fod yn hollbwysig, felly reportiwch y mater i ni”