Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cafodd 27 o bobl ledled ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot eu harestio o dan Ymgyrch Chirk ar ôl i swyddogion weithio i arestio nifer o unigolion dan amheuaeth y mae'r heddlu wedi bod yn chwilio amdanynt yn ddiweddar.
Mae Ymgyrch Chirk yn cynnwys diwrnodau o weithredu pan gaiff unigolion dan amheuaeth a'r rhai sy'n destun apeliadau chwilio eu targedu er mwyn eu rhoi yn y ddalfa.
Cynhaliwyd digwyddiad diweddaraf Ymgyrch Chirk ddydd Mercher 28 Hydref. Mae’r arestiadau fel a ganlyn:
Roedd y sawl a arestiwyd yn cynnwys cyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel, pobl â gwarantau heb eu gweithredu, ac unigolion sydd wedi’u galw'n ôl i'r carchar.
Ers hynny, mae 12 o'r bobl a arestiwyd wedi cael eu cyhuddo neu eu remandio i ymddangos gerbron y llys.
Dywedodd y Dirprwy Arolygydd Martin Fox:
"Mae’r holl waith ymgysylltu sy’n rhan o Ymgyrch Chirk yn dangos ein penderfyniad i fynd ar drywydd troseddwyr a'u dwyn i gyfrif.
"Mae swyddogion a staff wedi gweithio'n ddiflino i leihau'r galw i ddod o hyd i droseddwyr sydd heb eu dal eto drwy gynnal ymchwiliadau manwl yn y ffordd fwyaf proffesiynol bosibl
"Da iawn i'r holl swyddogion a staff, a diolch i aelodau o’r cyhoedd am rannu gwybodaeth a oedd yn hanfodol wrth sicrhau'r arestiadau hyn a chadw ein cymunedau'n ddiogel."