Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Aberdâr wedi cael ei garcharu am ymosod a bod â chyllell yn ei feddiant yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Daniel Price, 43 oed o Aberdâr, ei ddedfrydu ddydd Mawrth 20 Ionawr yn Llys Ynadon Merthyr Tudful i 12 mis yn y carchar. Mae'r ddedfryd hon yn dilyn ple euog am un achos o ymosod drwy daro ac un achos o fod â chyllell yn ei feddiant.
Digwyddodd hyn ar ôl i swyddogion fynd i gyfeiriad yn Aberdâr ddydd Sul 18 Ionawr 2026 ar ôl cael adroddiadau am ymosodiad ar fenyw. Pan aeth y swyddogion i'r cyfeiriad, honnodd y fenyw fod Price wedi'i tharo â'i ben a'i phwnio sawl gwaith ar ei chorff. Pan geisiodd ffoi rhagddo, aeth Price ar ei hôl gyda chyllell yn ei law.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Alex Smith, “Byddai hyn wedi bod yn brofiad brawychus a dychrynllyd i'r dioddefwr. Roedd ymddygiad Price yn gwbl annerbyniol ac nid oes lle i bobl sy'n ymddwyn fel hyn mewn cymdeithas.
"Mae'n dechrau ei gyfnod haeddiannol iawn yn y carchar."