Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Callum Blackley, 27 oed, o Aberdâr, wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis yn y carchar yn dilyn ei euogfarn am droseddau yn ymwneud â chyffuriau. Derbyniodd y ddedfryd ddydd Mawrth 6 Ionawr yn Llys y Goron Caerdydd, lle plediodd Blackley yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, ymwneud â chyflenwi canabis, bod â chocên yn ei feddiant, bod â chanabis yn ei feddiant a chaffael/ defnyddio eiddo troseddol.
Mae'r achos yn deillio o swyddogion yn cynnal patrôl ar Market Street, Aberdâr, lle gwnaethant weld Blackley yn cymryd rhan mewn deliad stryd â dau ddyn arall. Pan wnaeth swyddogion stopio a chwilio Blackley, daethant o hyd i nifer o fagiau plastig clir yn cynnwys 18 o becynnau hanner gram o gocên, wyth bag plastig yn cynnwys canabis, £1,030 mewn arian parod a thin metel yn cynnwys 3 joint canabis a oedd eisoes wedi'u rolio.
Atafaelwyd ffôn symudol yn ystod y chwiliad hefyd, a phan gafodd y cynnwys ei lawrlwytho, gwelwyd ei fod yn cynnwys negeseuon a oedd yn cysylltu Blackley ag achosion o ddelio cyffuriau yn yr ardal leol. Ymddangosodd Blackley gerbron Llys y Goron Caerdydd am y tro cyntaf ddydd Gwener 7 Tachwedd, lle plediodd yn euog i bob trosedd yn ei erbyn.
Dywedodd PC Allcock, "Mae'r achos hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyffuriau a sicrhau bod y rheini sydd am elwa o'r gweithgareddau anghyfreithlon hyn yn wynebu goblygiadau eu gweithredoedd. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i wneud ein cymunedau'n fwy diogel."
"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am weithgareddau sy'n ymwneud â chyffuriau i roi gwybod i ni. Mae cael cymuned leol wyliadwrus yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi ein hymdrechion i amddiffyn diogelwch y cyhoedd."