Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teyrnged wedi'i rhoi i ddioddefwr gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ddydd Llun, 29 Rhagfyr yn Rhondda Cynon Taf.
Ychydig cyn 11:25am ddydd Llun, cawsom wybod am wrthdrawiad ar ffordd osgoi A4119 yn Nhrewiliam, Tonypandy, a oedd yn cynnwys gyrrwr fan a gyrrwr car.
Bu farw gyrrwr y car, sef Donna Ball, 48 oed, a oedd yn fam i bedwar, yn yr ysbyty ddydd Mawrth.Mae ei theulu yn cael cymorth gan ein Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd.
Mae gyrrwr y fan, sy'n 19 oed ac yn byw yng Nghasnewydd, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn ogystal â dau achos o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ni wneud ymholiadau pellach tan 30 Mawrth.
Mae gŵr Donna wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
“Rydym fel teulu wedi ein llorio gan farwolaeth sydyn, drasig a diangen ein Donna annwyl.
“Hoffem achub ar y cyfle hwn i fynegi ein gwerthfawrogiad diffuant i'r holl wasanaethau brys a ymatebodd, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, a thimau'r adran Damweiniau ac Achosion Brys a gofal critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Hefyd, ni allaf ddiolch digon i staff a meddygon Ward Gwdihw ac Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru am ofalu am ein merch.
“Mae marwolaeth Donna wedi gadael bwlch enfawr na ellir fyth ei lenwi. Mae ein hen fywydau wedi dod i ben; mae ein bywydau hebddi yn dechrau nawr. Rydym wedi ein llethu gan y negeseuon o gariad a chydymdeimlad rydym wedi'u cael.
“Rydym yn cael cysur o'r parch mawr a oedd gan lawer tuag ati. Gorffwys mewn hedd, fy nghariad, nes y byddaf yn dy weld eto.”
Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd camera dashfwrdd o'r digwyddiad i gysylltu â ni. At hynny, byddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth am ymddygiad gyrru gyrrwr y fan yn ystod y cyfnod cyn y gwrthdrawiad.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500409628:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Gellir rhoi gwybodaeth hefyd yn ddienw ar Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein ar https://crimestoppers-uk.org/give-information