Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Matthew James, 39 oed, o Ferthyr Tudful, wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a 239 o ddiwrnodau yn y carchar yn dilyn ei euogfarn am gyflenwi cocên. Mae Leah Thomas, 26 oed, o Ferthyr Tudful, wedi cael ei dedfrydu i dair blynedd yn y carchar yn dilyn ei heuogfarn am gyflenwi cocên.
Cawsant eu dedfrydu ddydd Gwener 16 Ionawr 2026 yn Llys y Goron Merthyr Tudful, lle plediodd James a Thomas yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd â swyddogion yn monitro dau rif ffôn symudol, a oedd yn anfon negeseuon mewn swp yn hysbysebu gwerthu cocên. Anfonwyd dros 2,000 o negeseuon testun o'r ddau ffôn, a oedd yn perthyn i James a Thomas.
Ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2025, gwelodd swyddogion o'r uned troseddau cyfundrefnol gerbyd Thomas wedi'i barcio y tu allan i gyfeiriad James ym Merthyr Tudful. Gwyliodd swyddogion am ychydig wrth i'r pâr adael y tŷ, cyn mynd ati i'w harestio.
Yn ystod chwiliad, atafaelwyd ffôn a oedd gan Thomas, a daethpwyd o hyd i ffôn arall yng nghar Thomas yn ddiweddarach. Roedd gan y ddau ffôn gardiau sim a oedd yn gysylltiedig â'r llinell gyffuriau yr oeddent yn ei rhedeg. Daeth swyddogion o hyd i gannoedd o negeseuon ar y ffonau a oedd yn cysylltu Thomas a James â chyflenwi cocên rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2025.
Dywedodd y Rhingyll Andrew Carver "Mae Matthew James a Leah Thomas yn bâr a oedd yn gweld cyffuriau Dosbarth A fel cynllun i wneud arian yn gyflym.
“Mae cyffuriau yn bla ar ein cymunedau ac roeddent yn chwarae eu rhan yn dod â'r gofid hwn i strydoedd Merthyr Tudful.
“Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.”