Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar o bobl wedi cael eu dyfarnu'n euog o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth y llynedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Llys Illtyd, Tonysguboriau, am 6.10pm nos Sul, 9 Mawrth, 2025 lle cafodd Joanne ei chanfod wedi'i hanafu'n ddifrifol ar ôl iddi gael ei saethu yn y frest.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle.
Yn dilyn ein hymchwiliadau, gwyddom fod dau gar – Nissan Note a Volvo XC40 – wedi teithio o ardal Caerlŷr rywbryd ar ôl 10.30am ddydd Sul, 9 Mawrth, i Dde Cymru cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.
Heddiw yn Llys y Goron Caerdydd cafwyd Kistina Ginova, 23, o Swydd Gaerlŷr, Melissa Quailey-Dashper, 40, o Swydd Gaerlŷr, Jordan Mills-Smith, 33, o Gaerdydd a Joshua Gordon, 27, o Swydd Gaerlŷr, i gyd yn euog o lofruddiaeth Joanne Penney.
Mae Marcus Huntley, 21, o Laneirwg, Caerdydd, eisoes wedi cyfaddef i'r llofruddiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol i grŵp troseddau cyfundrefnol a bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.
Mae aelodau teulu Joanne Penney, menyw 40 oed a fu farw ar ôl cael ei saethu yn Nhonysguboriau, wedi talu teyrnged iddi. Dywedon nhw:
"Rydym wedi ein llorio gan farwolaeth drasig ein Joanne annwyl. Roedd hi'n ferch, yn fam, yn chwaer ac yn nith, ac roedd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei charu. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu byth yn mynd yn angof.
"Yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru a dechrau prosesu'r golled enbyd. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chydymdeimladau'r gymuned ac rydym yn gofyn am i'n teulu gael cyfle i alaru."

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees:
"Hoffwn ddiolch i'r tîm am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol achos sydd wedi bod yn ymchwiliad anodd a thrylwyr iawn. Mae achos arall eto i ddod, ond mae euogfarnau heddiw yn adlewyrchu diwydrwydd a gwaith caled y timau ymchwilio ac erlyn.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Joanne ar yr adeg eithriadol o anodd hon. Er ein bod yn cydnabod na fydd yr euogfarnau hyn yn dod â Joanne yn ôl, rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn galluogi'r teulu i alaru.”