Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a stelciodd fenyw yr oedd wedi ymosod arni'n rhywiol yn flaenorol wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.
Cafodd Michael Davies, 60 oed, o Ferthyr Tudful, ddedfryd estynedig o wyth mlynedd a phedwar mis wedi iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Merthyr ddydd Gwener 9 Ionawr. Bydd hefyd yn destun gorchymyn atal amhenodol a gorchymyn atal niwed rhywiol amhenodol.
Roedd hyn yn dilyn ple euog o stelcio gan gynnwys ofn trais.
Dros gyfnod o chwe blynedd anfonodd Davies negeseuon sinistr at y ddioddefwraig dros y cyfryngau cymdeithasol o dan enw menyw, gan gynnwys negeseuon yn bygwth tynnu ei dillad a'i bwrw â chansen. Datgelodd yn ddiweddarach mai ef oedd y person a ymosododd yn rhywiol arni flynyddoedd yn gynt.
Wedi iddi roi gwybod i'r heddlu, daethpwyd o hyd i Davies yn gyflym a phan aethant i'w gyfeiriad, gwelodd swyddogion ei fod wedi'i fewngofnodi i'r cyfrif ffug yr oedd yn ei ddefnyddio i fygwth y ddioddefwraig.
Yn ei datganiad am yr effaith arni, dywedodd y ddioddefwraig: "Gwnaeth ef fy stelcio i am chwe blynedd. Dim ond yn 2025 gwnes i sylweddoli mai Michael oedd yn ei wneud. Chwalodd hynny fy myd i. Rwyf mewn sioc llwyr ac yn gwneud ymdrech i ddod drosto. Mae ofn arna i i dderbyn yr hyn a ddigwyddodd oherwydd rwy'n poeni y bydd yn difethaf fy mywyd os byddaf yn gadael iddo wneud hynny.
Dywedodd PC Naomi Rees "Cyflawnodd Michael Davies gyfres o achosion o stelcio ac aflonyddu yn erbyn ei gyn-bartner, ac ni ddylai neb orfod wynebu hyn.
“Gadawodd y dioddefwr yn poeni am yr hyn y byddai'n ei wneud nesaf, gan gynnwys p'un a fyddai'n troi i fyny yn ei chyfeiriad.
“Mae unrhyw fath o stelcio ac aflonyddu yn gwbl annerbyniol a ni chaiff ei oddef gan yr heddlu. Dylai unrhyw un sy'n wynebu'r math hwn o ymddygiad roi gwybod i ni amdano ar unwaith.”