Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 41 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ar Trebanog Terrace, Penderyn ar Ddydd San Steffan wedi cael ei enwi fel Jamie Lee Morrison, o ardal Penderyn.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Jamie yn fab, yn frawd, yn ŵyr ac yn ewythr annwyl. Dim ond 41 oed ydoedd pan gafodd ei gymryd oddi wrthym mor sydyn, ac ni all dim fynegi'r golled rydym yn ei theimlo fel teulu.
“Roedd yn adnabyddus iawn yn y gymuned ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd ganddo galon aur ac roedd yn gwbl anhunanol, a byddai'n helpu unrhyw un mewn angen. Roedd ei deulu yn golygu popeth iddo.
"Roedd Jamie wrth ei fodd â phêl-droed ac roedd yn gefnogwr Arsenal brwd. Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau, yn enwedig y bechgyn yn y New Inn, Rhigos.
“Bydd Jamie yn aros yn ein calonnau am byth a fyddwn ni byth yn ei anghofio.”
Mae aelodau'r teulu wedi gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod trist hwn ac i bobl beidio â cheisio dyfalu beth ddigwyddodd.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad hwn yn mynd rhagddo ac mae'r Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol yn chwilio am dystion i'r gwrthdrawiad.
Anogir unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad neu sydd â deunydd fideo CCTV neu gamera dashfwrdd o'r ardal ar y pryd i gysylltu â ni.
Dylech ddyfynnu rhif digwyddiad 2500407622 wrth ddarparu gwybodaeth.