Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar ddioddefwyr-goroeswyr i gysylltu â nhw ar ôl i Anthony Pierce gael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Plediodd cyn-esgob Abertawe ac Aberhonddu Anthony Pierce, 85 oed o Fro Abertawe, yn euog i bum achos o ymosod yn anweddus ar blentyn dan 16 oed yn Llys y Goron Abertawe ym mis Chwefror 2025.
Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a mis yn y carchar. Pan gaiff ei ryddhau, bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol. Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Ers ei ddedfrydu, mae Heddlu De Cymru wedi cael gwybod am dri achos arall o droseddu sy'n dyddio'n ôl i'r 1970au a'r 80au. Mae ymchwiliadau i’r achosion hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tom Richardson o Adran Ymchwiliadau Troseddol Abertawe:
“Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn y gorffennol roi gwybod amdano nawr. Roedd dewrder y dioddefwr wrth roi gwybod am weithredoedd Pierce yn allweddol i'n helpu i'w ddwyn i gyfrif.
“Ers euogfarnu a dedfrydu Pierce, rydym wedi derbyn adroddiadau gan dri pherson arall sydd wedi cymryd y cam cyntaf yn dod i siarad â ni.
“Rydym yn credu y gallai pobl eraill fod wedi dioddef troseddau Pierce, a hoffem eu sicrhau y byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiadau yn llawn a'u trin mewn modd sensitif a thosturiol.
“Rydym yn cydnabod y gall cysylltu â’r heddlu beri braw ond byddem yn annog dioddefwyr-goroeswyr i siarad â ni fel y gallant gael y cymorth a'r help maen nhw'n ei haeddu."
Ffoniwch Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2600140999.
Am wybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am drais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru
I gael help a chymorth mewn perthynas â thrais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Trais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru