Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl canfod bod ganddo nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon yn ei eiddo.
Roedd Maximin Carter, 51 oed, wedi bod yn cadw'r arfau mewn tŷ ar Stryd Commercial, Abergwynfi. Daethpwyd o hyd i’r arfau ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch sylweddol ym mis Chwefror.
Ym mis Mawrth, plediodd Carter yn euog i chwe chyhuddiad o feddu ar arf ymosodol mewn lle preifat, ac un cyhuddiad o feddu ar arf aer cetris nwy gwaharddedig.
Mae wedi cael ei ddedfrydu heddiw i bum mlynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Kristian Burt:
“Wrth reswm, byddai’r digwyddiad ym mis Chwefror wedi achosi pryder mawr i gymuned Abergwynfi, a byddai trigolion wedi teimlo’n ansicr am ddiogelwch eu cartrefi oherwydd natur yr arfau roedd Maximin Carter wedi bod yn eu casglu.
“Hoffem ddiolch i'r trigolion hynny am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth tra oedd ein hymholiadau yn mynd rhagddynt ac wrth i ni gynnal ein hymchwiliad ar ôl i Maximin Carter gael ei arestio ym mis Chwefror.
“Gallant fod yn hyderus bod Abergwynfi yn lle llawer mwy diogel yn awr ar ôl i’r arfau hyn gael eu hatafaelu.”