Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae siopleidr mynych o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl targedu nifer o fusnesau yn yr ardal leol.
Aeth Richard Wolsey, 47 oed, heb gartref sefydlog, i mewn i nifer o archfarchnadoedd a siopau ledled ardaloedd Cadle, Portmead, Fforestfach, Pen-lan a chanol y ddinas, gan adael y siopau gydag eitemau gwerth cymaint â £657 mewn un achos.
Plediodd Wolsey yn euog i chwe chyhuddiad o ddwyn o siop yn Llys Ynadon Abertawe ar 11 Mai ac mae wedi cael ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Christian Thomas:
“Mae Richard Wolsey yn droseddwr mynych nad yw e erioed wedi dangos unrhyw arwyddion ei fod yn ceisio newid ei ffyrdd.
“Ni ddylai gweithwyr siop orfod delio â lladron sy'n targedu eu busnesau. Ond nid yw Richard Wolsey yn poeni dim am y rhai y mae'n gwneud eu bywydau'n anoddach drwy ddwyn o’u siopau.
“Rydym yn benderfynol o fynd ar ôl unrhyw un sy'n ymwneud ag achosion o siopladrata, yn enwedig troseddwyr mynych fel Richard Wolsey, a sicrhau eu bod yn cael eu hanfon i'r carchar.”